1Psalm o eiddo Asaph.
Duw y duwiau, Iehofah, a lefarodd ac a alwodd y ddaear,
O godiad haul hyd ei fachludiad:
2Allan o Tsïon, perffeithrwydd tegwch,
Duw a lewyrchodd;
3Dyfod y mae ein Duw ni, ac ni bydd ddistaw,
Tân, o’i flaen Ef, sy’n ysu,
Ac o’i amgylch Ef corwỳnt dirfawr sydd;
4Galw y mae Efe ar y nefoedd oddi uchod,
Ac or y ddaear, er mwyn barnu Ei bobl,
5(Sef) “cesglwch i Mi Fy saint ynghŷd,
Y rhai a wnaethant gyfammod â Mi trwy aberth;”
6A mynegodd y mynyddoedd Ei gyfiawnder Ef,
Canys Duw, barnu (y mae) Efe Ei hun. Selah.
7“Clywch, Fy mhobl, a llefaraf,
O Israel, ac argyhoeddaf di,
—Duw, dy Dduw di, Myfi (ydwyf),—
8Nid am dy aberthau y’th geryddaf.
A’th boeth offfrymmau (oeddynt) ger Fy mron beunydd,
9—Ni chymmeraf o’th dŷ di fustach,
(Nac) o’th gorlannau fychod;
10Canys eiddo Fi holl anifeiliaid y coed,
Y bwystfilod ar fil o fynyddoedd;
11Adwaen holl adar y mynyddoedd,
Ac ymlusgiad y maes (sydd) gyda Mi;
12Pe bai arnaf newyn ni ddywedwn wrthyt ti,
Canys eiddo Fi y byd a’i gyflawnder:
13A fwyttâf Fi gig y cedyrn (deirw),
A gwaed bychod a yfaf Fi?
14Abertha i Dduw ddiolch,
A thâl i’r Goruchaf dy addunedau,
15A galw Arnaf yn nydd cyfyngder,
(A) rhyddhâf di, a’m gogoneddu a gei!”
16Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw,
“Pa beth sydd i ti a wnelych âg adrodd Fy neddfau,
A chymmeryd o honot Fy nghyfraith yn dy enau,
17A thydi yn casâu cerydd,
Ac yn taflu Fy ngeiriau i’th ol?
18Pan welych leidr, ymhyfrydi ynddo,
A chyda ’r godinebwyr (y mae) dy gyfran;
19Dy enau a ollyngi yn rhydd mewn drygioni,
A’th dafod a wëa ddichell;
20Eisteddi ac yn erbyn dy frawd y lleferi,
Yn erbyn mab dy fam yr adroddi enllib:—
Hyn a wnaethost a thewais Innau;
21Tybiaist Fy mod yn ddiau fel tydi;
Cospaf di, a gosodaf (hyn) o flaen dy lygaid.”
22“Deallwch, attolwg, hyn, y rhai sy’n anghofio Duw,
Rhag rhwygo o Honof, ac na (bo) gwaredydd!
23A abertho ddiolch a’m hanrhydedda;
Ac a ystyrio (ei) ffordd,
Dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.