Rhufeiniaid 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Pa beth, gan hyny, yw rhagoriaeth yr Iwddew? Neu pa beth yw budd yr amdorriad?

2Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf, oblegid yr ymddiriedwyd oraclau Duw iddynt: canys pa beth os di-ffydd oedd rhai? A fydd eu hanghrediniaeth yn gwneuthur ffyddlondeb Duw yn ddirym?

3Na atto Duw; ond bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddwr,

4fel yr ysgrifenwyd,

“Fel y’th gyfiawnhaer yn Dy eiriau,

Ac y gorfyddech pan y’th fernir.”

5Ond os ein hanghyfiawnder a ganmol gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr Hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dyn yr wyf yn dywedyd;)

6Na atto Duw; canys yna, pa fodd y barna Duw y byd?

7Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a fu helaethach i’w ogoniant Ef, paham yr wyf finnau hefyd mwyach yn cael fy marnu fel pechadur,

8ac na (fel y’n ceblir, ac y dywaid rhai ein bod yn dywedyd,) wnawn y pethau drwg fel y delo y pethau da, y rhai y mae eu condemniad yn gyfiawn.

9Pa beth, gan hyny? A ydym ni yn fwy rhagorol? Ddim o gwbl; canys cyhuddasom o’r blaen yr Iwddewon a’r Groegwyr hefyd o fod,

10bawb o honynt, tan bechod; fel yr ysgrifenwyd,

“Nid oes neb cyfiawn, nid hyd yn oed un;

11Nid oes neb y sy’n deall;

Nid oes neb y sy’n ceisio Duw.

12Yr oll a wyrasant, ynghyd yr aethant yn anfuddiol,

Nid oes neb yn gwneuthur daioni; nid oes hyd yn oed un.

13Bedd agored yw eu gwddf;

A’u tafodau y gwnaethant ddichell,

Gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau.

14Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.

15Buan yw eu traed i dywallt gwaed;

16Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd;

17A ffordd tangnefedd nid adwaenant.

18Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid,”

19Ond gwyddom am gynnifer bethau ag y mae’r Gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai tan y Gyfraith y’u dywaid, fel y bo pob genau wedi ei gau, ac yr elo yr holl fyd dan farn Duw;

20canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd ger Ei fron Ef, canys trwy’r Gyfraith y mae adnabod pechod.

21Ond yn awr, yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu a thystiolaeth iddo gan y Gyfraith a’r Prophwydi;

22sef, cyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist, i bawb y sy’n credu;

23canys nid oes gwahaniaeth, canys pawb a bechasant,

24ac ydynt ar ol am ogoniant Duw, yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan Ei ras Ef trwy’r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu,

25yr Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd, trwy Ei waed Ef, i ddangos Ei gyfiawnder Ef, o achos maddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, yn nioddefgarwch Duw;

26i ddangos, meddaf, Ei gyfiawnder Ef y pryd hwn, fel y bo Efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd a chanddo ffydd yn yr Iesu.

27Pa le, gan hyny, y mae’r ymffrost? Cauwyd allan. Trwy ba gyfraith? Ai cyfraith gweithredoedd? Nage; eithr trwy gyfraith ffydd. Cyfrifwn,

28gan hyny, y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd y Gyfraith.

29Ai i’r Iwddewon yn unig y mae Efe yn Dduw? Nage; ond i’r cenhedloedd hefyd;

30ïe, i’r cenhedloedd hefyd, gan mai un yw Duw, yr Hwn a gyfiawnha yr amdorriad trwy ffydd, ac y diamdorriad trwy ffydd.

31Ai dirymu’r Gyfraith yr ydym trwy ffydd? Na atto Duw; eithr sefydlu’r Gyfraith yr ydym.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help