1I’r blaengeiniad, ar yr offer tannau. Eiddo Dafydd.
2Clyw, O Dduw, fy llefain,
Gwrando ar fy ngweddi!
3O eithaf y ddaear, arnat Ti y galwaf yn llesmeiriad fy nghalon;
I’r graig sydd rhy uchel i mi, arwain Di fi,
4Canys buost noddfa i mi,
Yn dŵr cadarn rhag y gelyn!
5Trigaf yn Dy babell yn dragywydd,
Ymnoddaf dan orchudd Dy adennydd, Selah.
6Canys Tydi, O Dduw, a glywaist fy addunedau,
A roddaist (i mi) etifeddiaeth y rhai sy’n ofni Dy enw.
7Dyddiau, at ddyddiau y brenhin, a chwannegi Di,
(Ac) ei flynyddoedd fel cenhedlaeth a chenhedlaeth:
8Bydded ef orseddawg yn dragywydd ger bron Duw!
Trugaredd a ffyddlondeb, par iddynt ei gadw ef!
9Felly y tarawaf y tannau i’th enw byth,
Er mwyn talu fy addunedau ddydd (ar ol) dydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.