1Cân y graddau. Eiddo Shalomo.
Os Iehofah nid adeilada ’r tŷ,
Ofer y llafuriodd ei adeiladwyr wrtho!
Os Iehofah ni cheidw ’r ddinas,
Ofer y gwyliodd y ceidwad!
2Ofer (yw) i chwi y rhai sy’n bore-godi,
Y rhai sy’n eistedd hyd yr hwyr,
Y rhai sy’n bwytta bara gofidiau!
Felly, fe rydd Efe i’w anwylyd gwsg!
3Wele, etifeddiaeth (oddi wrth) Iehofah (yw) plant,
Gwobr (yw) ffrwyth y grôth!
4Fel saethau yn llaw ’r gwron,
Felly (y mae) plant ieuengctid!
5Gwyn fyd y gwr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt!
Ni chywilyddir hwynt,
Pan lefaront â gelynion yn y porth!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.