1O herwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfrannogion o’r alwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes,
2Iesu, yn ffyddlawn i’r Hwn a’i happwyntiodd Ef,
3fel y bu Mosheh hefyd yn ei holl dŷ; canys o fwy gogoniant na Mosheh y cafodd Hwn Ei farnu yn deilwng,
4yn gymmaint a mwy o anrhydedd nag sydd gan y tŷ sydd gan yr hwn a’i hadeiladodd. Canys pob tŷ sy’n cael ei adeiladu gan rywun;
5ond yr Hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. A Mosheh yn wir fu ffyddlawn yn ei holl dŷ megis gwas,
6er tystiolaeth i’r pethau ar fedr eu llefaru; ond Crist megis Mab ar Ei dŷ; tŷ yr Hwn yr ydym ni, os ein hyfdra ac
7ymffrost ein gobaith a ddaliwn yn ddiymmod hyd y diwedd. O herwydd paham, fel y dywaid yr Yspryd Glân,
“Heddyw, os Ei lais Ef a glywoch,
8Na chaledwch eich calonnau fel yn y Chwerwad,
Yn nydd y Profedigaeth yn yr anialwch,
9Lle y temtiodd eich tadau Fi â phrofiad,
Ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd;
10O herwydd paham y digiais wrth y genhedlaeth hon,
A dywedais, Pob amser cyfeiliorni y maent yn eu calon,
A hwy nid adnabuant Fy ffyrdd;
11Fel y tyngais yn Fy llid,
Ni ddeuant i mewn i’m gorphwysfa.”
12Edrychwch, frodyr, rhag ysgatfydd y bydd yn neb o honoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan sefyll draw oddiwrth y Duw Byw;
13eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra “Heddyw” y’i gelwir, fel na chaleder neb o honoch gan dwyll pechod,
14canys yn gyfrannogion o Grist yr aethom, os dechreuad ein hyder a ddaliwn hyd y diwedd yn ddiymmod;
15tra y dywedir,
“Heddyw, os Ei lais a glywoch,
Na chaledwch eich calonnau fel yn y Chwerwad.”
16Canys pwy, wedi clywed, a chwerwasant Ef? Onid yr oll a ddaethent allan o’r Aipht trwy Mosheh?
17Ac wrth ba rai y digiodd Efe ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechasant, y rhai y syrthiodd eu celanedd yn yr anialwch?
18Ac wrth ba rai y tyngodd na ddeuent i mewn i’w orphwysfa, oddieithr wrth y rhai a anufuddhasant?
19A gwelwn na allent fyned i mewn o herwydd anghrediniaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.