1Ho! yr holl rai sychedig, deuwch at y dyfroedd,
A’r hwn nid oes ganddo arian, deuwch, prynwch, a bwyttêwch;
Ië, deuwch, prynwch heb arian,
Ac heb werth, win a llaeth.
2Pa ham y gweriwch arian am (yr hyn) nid (yw) fara,
A’ch llafur am (yr hyn) ni wna ddigoni?
Gwrandêwch gan wrando arnaf Fi, a bwyttêwch (yr hyn sy) dda,
Ac 『2mewn brasder』 『1yr ymhyfryda』 eich enaid.
3Gogwyddwch eich clust, a deuwch attaf,
Gwrandêwch a bydd byw eich enaid,
A Mi a wnaf â chwi gyfammod tragywyddol,
(Sef) trugareddau Dafydd, y rhai (sydd) sicr.
4Wele, yn dyst i’r bobloedd y rhoddais ef,
Yn flaenor, ac yn orchymmynwr i’r bobloedd.
5Wele, cenedl nad adweini a elwi,
A chenedl na’th edwyn attat ti a red,
Er mwyn Iehofah dy Dduw,
Ac o herwydd Sanct Israel, canys Efe a’th ogoneddodd.
6Ceisiwch Iehofah tra y galler Ei gael Ef,
Gelwch arno tra fyddo yn agos.
7Gadawed y drygionus ei ffordd,
A’r gwr anwir ei feddyliau,
A dychweled at Iehofah, ac Efe a drugarhâ wrtho,
Ac at Ein Duw ni, canys helaeth yw Efe i faddeu.
8Canys nid Fy meddyliau I eich meddyliau chwi,
Ac nid eich ffyrdd chwi Fy ffyrdd I, medd Iehofah;
9Canys fel y mae ’r nefoedd yn uwch nâ ’r ddaear,
Felly uwch Fy ffyrdd I nâ ’ch ffyrdd chwi,
A’m meddyliau I nâ ’ch meddyliau chwi.
10Yn ddïau fel y disgyn y gwlaw
A’r eira o’r nefoedd,
Ac yno ni ddychwel,
Eithr dyfrhâ ’r ddaear,
Ac a wna iddi ymddwyn a rhoddi ffrwyth,
Fel y rhoddo hâd i’r hauwr, a bara i’r bwyttâwr;
11Felly y bydd Fy ngair yr hwn a ddaw allan o ’m genau;
Ni ddychwel attaf yn wag,
Eithr efe a wna yr hyn a fynnais,
Ac a bar lwyddiant i’r hyn yr anfonais ef (o’i blegid).
12Yn ddïau mewn llawenydd yr ewch allan,
Ac mewn hedd y’ch arweinir;
Y mynyddoedd a’r bryniau a dorrant allan o’ch blaen chwi â llawen-gân,
A holl goed y maes a gurant ddwylaw.
13Yn lle’r draenllwyn y cyfyd ffynnidwydden,
Ac yn lle’r fiaren y cyfyd myrtwydden;
A (hyn) fydd i Iehofah yn enw,
Yn arwydd tragywyddol na thorrir ymaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.