Hebreaid 10 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Canys a chysgod gan y Gyfraith, o’r pethau da i ddyfod, ac nid a’r llun ei hun o’r pethau, â’r un aberthau bob blwyddyn, y rhai a offrymmant yn wastadol, ni allant byth berffeithio y rhai sy’n dyfod at Dduw;

2canys oni pheidiasent â’u hoffrymmu, gan na fyddai mwyach ddim cydwybod o bechodau gan y rhai yn addoli, wedi iddynt un waith am byth eu glanhau?

3Eithr yn yr aberthau hyn,

4adgoffa pechodau sydd bob blwyddyn: canys ammhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.

5Gan hyny, pan yn dyfod i’r byd y dywaid,

“Aberth ac offrwm ni ewyllysiaist,

Ond corph a barottoaist i Mi;

6Mewn poeth-offrymmau a phech-aberthau ni’th foddlonwyd,

7Yna dywedais, Wele, daethym,

(Yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am Danaf,)

I wneuthur, O Dduw, Dy ewyllys.”

8Gan ddywedyd uchod, “Aberthau ac offrymmau a phoeth-offrymmau a phech-aberthau ni ewyllysiaist,” ac “ni’th foddlonwyd” ynddynt, (y rhai yn ol y Gyfraith a offrymmir,)

9yna y dywedodd, “Wele, daethum i wneuthur Dy ewyllys,” tynnu ymaith y cyntaf y mae, fel yr ail y gosodo.

10A chan yr “ewyllys” hwn y’n sancteiddiwyd trwy offrwm corph Iesu Grist un waith am byth.

11A phob offeiriad yn wir sy’n sefyll o ddydd i ddydd yn gwasanaethu, ac yr un aberthau yn fynych a offrymma, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau;

12ond Hwn, wedi i un aberth am bechodau ei offrymmu Ganddo am byth, a eisteddodd ar ddeheulaw Duw,

13o hyn allan yn disgwyl hyd oni “osoder Ei elynion yn droed-faingc i’w draed,”

14canys ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai sy’n cael eu sancteiddio.

15A thystiolaethu i ni y mae’r Yspryd Glân, canys ar ol dywedyd,

16“Hwn yw’r cyfammod a ammodaf â hwynt,

Ar ol y dyddiau hyny, medd Iehofah,

Gan roddi Fy nghyfreithiau yn eu calonnau

Ac ar eu meddwl yr ysgrifenaf hwynt:”

17 y dywaid,

“A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwy.”

18A lle y mae maddeuant y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm am bechod.

19Gan ein bod, gan hyny, frodyr, a chenym hyfdra am y ffordd i mewn i’r cyssegr trwy waed yr Iesu, yr hon a gyssegrodd Efe i ni,

20ffordd newydd a byw, trwy’r llen,

21hyny yw, Ei gnawd Ef; a chenym Offeiriad Mawr ar dŷ Dduw,

22nesawn â chalon gywir mewn llawnder ffydd, wedi ein taenellu o ran ein calonnau oddiwrth gydwybod ddrwg, ac wedi ein golchi o ran y corph â dwfr glân.

23Daliwn gyffes ein gobaith heb siglo o honi, canys ffyddlawn yw’r Hwn a addawodd;

24ac ystyriwn ein gilydd, i annog i gariad a gweithredoedd da;

25heb ymadael â chyd-gynhulliad ein gilydd, fel y mae arfer rhai, eithr gan gynghori ein gilydd; ac o hyny yn fwy yn gymmaint ag y gwelwn y dydd yn nesau.

26Canys pan o’n gwirfodd y pechwn, ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes mwyach yn aros aberth am bechodau,

27ond rhyw dderbyniad ofnadwy barn, ac angerdd tân ar fedr difa’r gwrthwynebwyr.

28Y neb a ddiystyrodd Gyfraith Mosheh, heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion y bydd farw:

29pa faint gwaeth cospedigaeth (dybygwch chwi,) y bernir haeddu o’r hwn y bu i Fab Duw Ei fathru ganddo; ac i waed y cyfammod ei farnu yn ansanctaidd ganddo, â’r hwn y’i sancteiddiwyd, ac i Yspryd y gras Ei sarhau ganddo?

30Canys adwaenom yr Hwn a ddywedodd, “I Mi y perthyn dial; Myfi a dalaf:” ac etto, “Barna Iehofah Ei bobl.”

31Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw Byw.

32Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, llawer ymdrech dioddefiadau a oddefasoch;

33o ran, â gwaradwyddiadau a gorthrymderau yn cael eich gwneuthur yn wawd; ac o ran, wedi myned yn gyfrannogion â’r rhai yn cael eu trin felly,

34canys â’r rhai mewn rhwymau y cyd-ymdeimlasoch, ac anrheithiad eich meddiannau gyda llawenydd a gymmerasoch, gan wybod fod genych, i’ch hunain, feddiant gwell a pharhaus.

35Na fwriwch ymaith, gan hyny, eich hyfdra, yr hwn sydd a chanddo fawr daledigaeth a gobrwy;

36canys wrth amynedd y mae i chwi raid, fel, wedi i ewyllys Duw ei wneuthur genych, y derbynioch yr addewid:

37Canys etto ychydig bachigyn

A’r Hwn sy’n dyfod a ddaw, ac nid oeda;

38A’m cyfiawn, “trwy ffydd a fydd byw;”

Ac os tyn yn ol, ni foddlonir Fy enaid ynddo.

39Ond nyni nid ydym o’r “tynnu yn ol,” i ddistryw; eithr o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help