1(Psalm) o eiddo Dafydd.
Ymddadleu, O Iehofah, yn erbyn fy ymddadlwyr,
Rhyfela yn erbyn y rhai a ryfelant â mi!
2Ymafael yn y darian a’r aes bigog,
A chyfod i’m cymmorth!
3Tŷn aflan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwŷr,
Dywed wrth fy enaid “Dy waredigaeth Myfi (yw)!”
4Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid,
Ymchweler yn (eu) hol, a gwrided y rhai a fwriedant ddrwg i mi!
5Byddont fel us o flaen y gwỳnt,
Ac angel Iehofah yn (eu) gyrru ymlaen!
6Bydded eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrigfeydd,
Ac angel Iehofah yn eu herlid!
7Canys yn ddïachos y cuddiasant i mi bydew eu rhwyd,
Yn ddïachos y cloddiasant i’m henaid:
8Deued arno ddistryw heb ragwybod o hono,
A’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio;
Yn y distryw, (ïe) syrthied efe ynddo!
9A’m henaid i a lawenycha yn Iehofah,
A orfoledda yn Ei waredigaeth Ef;
10Fy holl esgyrn a ddywedant, “O Iehofah, pwy (sydd) fel Tydi
Yn achub y cystuddiol rhag y neb sydd drech nag ef,
A’r cystuddiol a’r anghenus rhag ei yspeiliwr?”
11Cyfododd tystion treisig,
Ynghylch yr hyn nis g’wn yr holant fi;
12Adtalant i mi ddrwg dros dda:
Amddifad (yw) fy enaid!
13Eithr myfi,—yn eu selni hwy, fy ngwisg (oedd) sachlïain,
Cystuddiais fy enaid mewn ympryd,
A’m gweddi, ar fy mynwes yr aeth hi;
14Fel (pe buasai) ’n gymhar, neu yn frawd i mi, yr ymrodiais,
Fel un yn galaru am (ei) fam, mewn ffieiddwisg yr ymgrymmias:
15Ond yn fy nghwymp i,—llawenychu y maent hwy, ac ymgasglu,
Ymgasglu i’m herbyn y mae frewyllwyr nad adwaenwn,
Rhwygant (fi) heb dewi o honynt,
16Ynghyda rhagrithwyr o ysmaldodwyr llygad y bwyd,
Gan ysgyrnygu arnaf â’u dannedd.
17O Arglwydd, pa hyd yr edrychi?
Dychwel fy enaid oddi wrth eu distryw hwynt,
Oddi wrth y llewod ieuaingc (dychwel) fy mywyd!
18Diolchaf i Ti yn y gynnulleidfa fawr,
Ymhlith y bobl aml y’th foliannaf.
19Na fydded i’m gelynion gau lawenychu drosof,
I’m casawŷr dïachos ysmicio â llygad!
20Canys nid am heddwch yr ymddiddanant hwy,
Ond yn erbyn y rhai llonydd yn y tir
Pethau twyllodrus a amcanant hwy:
21A lledasant arnaf eu safn,
Dywedasant “Ah! Ah!
Gweled y mae ein llygad:”
22Gweled yr wyt Ti, O Iehofah; na thaw!
O Arglwydd, nac ymbellhâ oddi wrthyf!
23Deffro, dihuna i’m barn,
O fy Nuw a’m Harglwydd,—i’m dadl!
24Barn fi, O Iehofah fy Nuw,
Ac na lawenhâent o’m hachos;
25Na ddywedant yn eu calon, “Ha! ein henaid!”
Na ddywedant, “Llyngcasom ef!”
26Cywilyddier, a gwrided ynghyd y rhai a lawenychont yn fy nrygfyd,
Gwisger â chywilydd a gwaradwydd y rhai a ymfalchiont i’m herbyn:
27Llawen-ganed, a llawenyched hoffwyr fy ngwaredigaeth;
Dywedont beunydd “Mawryger Iehofah,
Yr Hwn sy’n ymhyfrydu yn llwyddiant Ei was!”
28A’m tafod innau a adrodda Dy waredigaeth,
Pob dydd (yr adrodda efe) Dy fawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.