Psalmau 116 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CXVI.

1Hoff yw gennyf wrando o Iehofah

Ar fy llef, ar fy ymbiliau,

2Gogwyddo o Hono Ei glust attaf;

Ac yn hyd fy nyddiau y galwaf (Arno)!

3Cylchynodd maglau angau fi,

A chyfyngderau annwn a’m cawsant,

Ing a blinder a gefais;

4Ac ar enw Iehofah y gelwais,

“Attolwg, Iehofah, gwared fy enaid!”

5Graslawn (yw) Iehofah, a chyfiawn,

A’n Duw ni (sydd) dosturiol;

6Cadw y rhai syml (y mae) Iehofah,

Anghenus oeddwn ac i mi y rhoes Efe ymwared!

7Dychwel, O fy enaid, i’th orphwysfa,

Canys Iehofah fu dda wrthyt,

8Canys achubaist fy enaid oddi wrth angau,

Fy llygaid oddi wrth ddagrau,

Fy nhraed rhag tramgwyddo!

9 Ymrodiaf o flaen Iehofah

Yn nhiroedd y rhai byw;

10 Sicr-gredu yr wyf pan ddywedwyf

“Myfi,—cystuddiwyd fi yn ddirfawr!”

11Myfi,—dywedais yn fy nychryn,

“Pob dyn (sydd) dwyllodrus!”

12Pa beth a dalaf i Iehofah

Am Ei holl ddaioni i mi?

13— Cwppan ymwared a gymmeraf,

Ac ar enw Iehofah y galwaf,

14Fy addunedau i Iehofah a dalaf

Yngŵydd — O bydded felly! — Ei holl bobl!

15Gwerthfawr yngolwg Iehofah

(Yw) marwolaeth Ei saint Ef:

16Attolwg, O Iehofah; canys myfi, Dy was (wyf),

Myfi, Dy was (wyf), mab Dy wasanaeth-wraig;

Dattodaist fy rhwymau!

17I Tydi yr aberthaf aberth dïolch,

Ac ar enw Iehofah y galwaf,

18Fy addunedau i Iehofah a dalaf

Yngŵydd — O bydded felly! — Ei holl bobl,

19Ynghynteddoedd tŷ Iehofah,

Yn dy ganol di, O Ierwshalem!

Molwch Iah!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help