1 Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio!
A thi yspeiliwr, ac nid yspeiliodd (neb) dydi!
Pan ddarffo it’ anrheithio, y’th anrheithir;
Pan flinych âg yspeilio, hwy a’th yspeiliant dydi.
2 O Iehofah, bydd raslawn wrthym; wrthyt y disgwyliasom;
Bydd fraich i ni bob bore,
Ein hiachawdwriaeth yn amser cyfyngder.
3 Wrth y llais terfysglyd gwibiodd y bobloedd,
Wrth ymddyrchafu o honot gwasgarwyd y cenhedloedd;
4Cynhullir eich yspail fel cynhulliad lindys,
Fel gwibiad ceiliogod rhedyn, y rhêd (dyn) atto.
5 Dyrchafwyd Iehofah, canys preswylio y mae yn yr uchelder,
Llanwodd Tsïon o farn a chadernid.
6A bydd sicrwydd i’th amserau,
Digonedd iachawdwriaeth, doethineb a gwybodaeth.
Ofn Iehofah! hyn (yw) ei drysor ef.
7 Wele, eu rhai dewrion sy’n gwaeddi oddi allan,
Y cenhadon heddwch sy’n chwerw-wylo.
8Gwaghâwyd y prif-ffyrdd, darfu cynniweirydd llwybr.
Diddymmodd y cyfammod, dirmygodd y dinasoedd;
Ni wnaeth gyfrif o ddynion.
9Galaru a llesghâu y mae ’r ddaear;
Cywilyddiodd Lebanon, gwywo y mae efe;
Aeth Sharon megis anialwch;
Ac yn ddiddail yr aeth Bashan a Carmel.
10 Yn awr cyfodaf, medd Iehofah,
Yn awr ymddyrchafaf, yn awr dyrchefir Fi.
11 Chwi a ymddygwch us, chwi a esgorwch ar sofl,
Eich yspryd, yn dân, a’ch ysa chwi.
12A bydd y bobloedd fel llosgiad calch;
(Fel) drain wedi eu torri, mewn tân y llosgir hwy.
13Gwrandeŵch belledigion yr hyn a wnaethum,
A gwybyddwch, y rhai sy’n agos, Fy nerth.
14Yn 2Tsïon 1arswydodd y pechaduriaid,
Daliodd dychryn y rhagrithwŷr;
Pwy o 2honom a 1drig gyd â’r tân ysol?
Pwy o 2honom a 1drig gyd â’r llosgfeydd tragywyddol?
15Yr hwn a rodia (mewn) cyfiawnder, ac a draetha uniondeb,
Yr hwn a ddirmygo elw gorthrymder,
Yr hwn a ysgydwo ei law oddi wrth ariandag,
Yr hwn a gauo ei glust rhag clywed am waed,
Yr hwn a gauo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni:
16Hwn yr uchelderau a breswylia,
Cestyll y creigiau (a fydd) ei uchel ymddiffynfa;
Ei fara a roddir (iddo); ei ddwfr (a fydd) sicr:
17Ar y brenhin yn ei degwch yr edrych ei lygaid,
Cânt weled tir y rhai pell.
18Dy galon a fyfyria ar yr hyn oedd ei hofn, (sef)
Pa le (y mae) y cyfrifwr? pa le y (mae) y pwyswr?
Pa le (y mae) y rhifwr tyrau?
19Y bobl gadarn (hynny) nis gweli mwy,
Pobl ddyfnach ei hiaith nag a ddeallych di,
Bloesg dafod fel nad amgyffrych hi.
20Gwêl Tsïon, dinas ein gwyliau nodedig,
Dy lygaid a welant Ierwshalem,
Y breswylfa lonydd, y babell na thynnir i lawr,
Ni syflir ei hoelion am byth,
Ac o’i holl raffau ni thorrir (un).
21Eithr enw gogoneddus Iehofah (a fydd) i ni
Yn fangre afonydd, ffrydiau llydain,
Trosti nid aiff llong rwyfedig
A llong odidawg nid aiff drwyddi;
22Canys Iehofah ein Barnwr, Iehofah ein Deddfwr,
Iehofah ein Brenhin, Efe fydd ein Hiachawdwr.
23 Gollyngwyd dy raffau, ni sicrhêir hwy;
Felly y mae dy hwylbren, ni thaenasant yr hwyl;
Yna y rhennir ysglyfaeth yspail fawr;
Y cloffion a ysglyfaethant ysglyfaeth,
24Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf.
Y bobl a drigant ynddi, maddeuwyd (eu) hanwiredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.