1Cloriannau twyllodrus (sy) ffieidd-beth gan Iehofah,
Ond carreg lawn-bwysig (sy) beth cymmeradwy Ganddo.
2Daw ymchwydd a daw gwarth,
Ond gyda ’r gostyngedig rai doethineb (sydd).
3Diniweidrwydd yr uniawn a ’u tywys,
Ond camwri ’r troseddwyr a ’u difa.
4Ni leshâ cyfoeth yn nydd digofaint,
Ond cyfiawnder a weryd rhag angau.
5Cyfiawnder y diniweid a uniawna ei ffordd ef,
Ond yn ei ddrygioni y syrth y drygionus.
6Cyfiawnder yr uniawn a ’u gweryd,
Ond yn (eu) chwantau y troseddwyr a feglir.
7Pan fo marw ’r dyn drygionus, distrywir gobaith,
A disgwyliad gwagedd a ddistrywiwyd.
8Y cyfiawn, o gyfyngder y rhyddhêir ef,
A daw y drygionus i ’w le ef.
9A’ (i) enau yr annuwiol a ddinystria ei gymmydog,
Ond trwy wybodaeth y cyfiawn rai y rhyddhêir hwynt.
10Yn llwyddiant y cyfiawn rai y llawenycha ’r ddinas,
Ond pan dderfydd am y drygionus rai y mae llawen-gân.
11Trwy fendith yr uniawn rai y dyrchefir y ddinas,
Ond trwy enau ’r drygionus rai y dinystrir hi.
12Dirmygwr ei gymmydog (sy) ddiffygiol o ddeall,
Ond gwr synhwyrol a daw.
13A rodio yn athrodwr a ddatguddia gyfrinach,
Ond y ffyddlon ei yspryd a gela ’r peth.
14Lle nad (oes) arweiniad y syrth y bobl,
Ond ymwared (sydd) yn amlder cynghorwyr.
15A drwg y drygir (dyn) pan feichnio dros ddieithr-ddyn,
Ond a gasao darawyr dwylaw (sydd) ymhyderus.
16Gwraig rasol a ddeil at anrhydedd,
A ’r galluog a ddaliant at gyfoeth.
17Gwneud da iddo ei hun (y mae) gwr cariadlawn,
Ond blino ei gnawd (y mae) ’r creulon.
18Yr annuwiol a wna ennill twyllodrus,
Ond a hauo gyfiawnder, cyflog sicr (sydd iddo).
19Y diysgog (ei) gyfiawnder, i fywyd (y bydd hyn),
Ond a ddilyno ddrygioni, i ’w farwolaeth.
20Ffieidd-beth gan Iehofah y rhai gwyr-dröus o galon,
Ond Ei hyfrydwch, y rhai perffaith (eu) ffordd.
21 hâd y rhai cyfiawn a ddïangc.
22Modrwy aur yn nhrwyn hwch,
(Yw) banyw lân ond pell oddi wrth bwyll.
23Chwennychiad y cyfiawn rai, yn unig i dda (yw),
Gobaith yr annuwiol, (sydd) ddigter,
24Y mae yr hwn a wasgar,—ac y chwannegir iddo,
A ’r hwn a arbed yn ormod,—ond i eisiau.
25Enaid y fendith a ireiddir,
A ’r dyfrhâwr a ddyfrhêir ei hun hefyd.
26A attalio ŷd, melldithia ’r bobl ef,
Ond bendith (sydd) ar ben y gwerthydd.
27A chwilio am ddaioni a gais gymmeradwyaeth,
Ond a ddilyno ddrwg,—fe ddaw ef arno.
28A ogludo ar ei olud, hwnnw a gwymp,
Ond fel deilen, y cyfiawn a flagurant.
29A flino ei dŷ a berchennoga ’r gwỳnt,
A gwas (fydd) yr ynfyd i ’r doeth o galon.
30Ffrwyth y cyfiawn (sydd) bren bywyd,
A daliwr eneidiau (yw) ’r doeth.
31Wele, y cyfiawn, ar y ddaear y telir iddo:
Pa faint mwy, i ’r annuwiol a ’r pechadur?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.