Eshaiah 27 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXVII.

1Yn y dydd hwnnw y gofwya Iehofah â’i gleddyf,

(Â’i) galed, mawr, a chadarn (gleddyf,)

Leviathan, y sarph ffoedig,

A Leviathan, y sarph dorchog,

Ac y lladd y ddraig yr hon (sydd) yn y môr.

2Yn y dydd hwnnw,

Y winllan ddymunawl; cenwch gân ymattebol iddi.

3(Iehofah).

Myfi, Iehofah a’i ceidw,

Ar (bob) amrant y dyfrhâf hi;

Ymwelaf â hi y nos,

A’r dydd Mi a’i cadwaf.

4 (Y Winllan).

Mur nid (oes) gennyf;

O na roddasid i mi (fur) o fieri a drain.

(I).

Mewn rhyfel y cerddwn yn eu herbyn,

Llosgwn hwynt ynghŷd;

Yn hytrach ymafled hi yn Fy nghadernid i.

5(Y W).

Gwnaed Ef heddwch â mi;

Heddwch a wnaed Efe â mi.

6(I).

Y sawl a ddeuant o wreiddyn Iacob a flodeuant, ac e flaen-dardda Israel,

A hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.

7 Ai yn ol tarawiad ei darawydd y tarawodd Efe?

Ai yn ol lladdfa ei laddedigion y lladdwyd ef?

8Wrth fesur-fesur, yn ei danfon hi allan, yr ymddadleui â hi,

Gan ystyried yn Ei wŷnt garw, yn nydd y dwyreinwŷnt.

9Am hynny ar (yr ammod) hwn y cymmodir am anwiredd Iacob;

A hyn (yw) ’r holl ffrwyth; (sef) pan roddo efe ymaith ei bechod,

Pan wnelo efe holl gerrig yr allor

Fel cerrig calch gwasgaredig,

Ac na safo llwyni ac haul-ddelwau.

10Etto y ddinas gaerog a fydd unig,

Yn annedd wrthodedig a gadawedig megis anialwch;

Yno y pawr yr eidion, ac yno y gorwedd,

Ac y difa ei blagur hi.

11 Pan wywo ei changennau hi, hwy a dorrir;

Gwragedd a ddaw ac a’u llosgant;

Canys nid pobl ddeallgar hwy.

Am hynny ni thosturia wrthynt eu Gwnaethurwr,

A’u Lluniwr ni fydd raslawn wrthynt.

12A bydd yn y dydd hwnnw,

Yr hel Iehofah ffrwyth o ffrwd yr afon

Hyd afon yr Aipht;

A chwi a loffir

Bob yn un ac un, O feibion Israel.

13A bydd yn y dydd hwnnw,

Y cenir âg udgorn mawr,

Ac y daw y rhai colledig yn nhir Assyria,

A’r rhai gwasgaredig yn nhir yr Aipht,

Ac yr ymgrymmant i Iehofah

Yn y mynydd sanctaidd yn Ierwshalem.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help