Diarhebion 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

III.

1Fy mab, fy addysg na ollwng di dros gof,

A’m gorchymynion, cadwed dy galon hwynt,

2Canys hirder dyddiau, a blynyddoedd bywyd,

A heddwch a chwanegant hwy i ti:

3Caredigrwydd a gwirionedd nac ymadawont â thi,

Rhwym hwynt am dy wddf,

Ysgrifena hwynt ar lech dy galon;

4Felly y cei ras a deall da

Yngolwg Duw a dyn:

5Ymddiried yn Iehofah â’th holl galon,

Ond ar dy ddeall dy hun nac ymorphwys;

6Yn dy holl ffyrdd cydnebydd Ef,

Ac Efe a uniona dy lwybrau:

7Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun,

Ofna Iehofah, a chilia oddi wrth ddrygioni;

8Iachâd a fydd hynny i ’th fogail,

Ac yn ddyfrhâd i ’th esgyrn:

9Anrhydedda Iehofah â’th gyfoeth,

Ac â blaenffrwyth dy holl gynnydd,

10Felly y llenwir dy ysguboriau â gorddigonedd,

Ac â gwin newydd dy win-wryfoedd a lifant drosodd:

11Cerydd Iehofah, fy mab, na ddirmyga,

Ac na ffieiddia Ei argyhoeddiad Ef,

12Canys y neb sydd hoff gan Iehofah, Efe a’i hargyhoedda,

Ond fel tad fab yr ymhyfrydo efe ynddo:

13Gwỳn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb,

A’r dyn a ennillo ddeall,

14Canys gwell ei helw hi nag elw arian,

Ac nag aur pur ei chynnyrch hi;

15Gwerthfawroccach hi na pherlau,

A’th holl ddymunol bethau nid ŷnt gystal â hi;

16Hirder dyddiau (sydd) yn ei llaw ddehau,

Ac yn ei llaw aswy cyfoeth a gogoniant;

17Ei ffyrdd (ŷnt) ffyrdd hyfrydwch,

A’i holl lwybrau (ŷnt) heddwch;

18Pren bywyd (yw) hi i’r rhai a ymaflont ynddi,

Ac a ddaliont wrthi (sy) ddedwydd:

19Iehofah trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear,

A sicrhâodd y nefoedd trwy ddeall,

20Trwy Ei wybodaeth Ef y mawr ddyfroedd a agorwyd,

A’r wybrennau a ddefnynant wlith.

21Fy mab, na chilied o ’th olwg,

(Ond) cadw di, gynghor a phwyll,

22A hwy a fyddant yn fywyd i ’th enaid,

Ac yn ras i ’th wddf;

23Yna y rhodi dy ffordd yn hyderus,

A’th droed ni thramgwydda;

24Os gorweddi, nid arswydi,

Ond gorweddi a melus fydd dy gwsg,

25Ac nid ofni rhag braw disymmwth,

Na rhag tymhestl yr annuwiolion, pan ddelo,

26Canys Iehofah (fydd) yn hyder i ti,

Ac a geidw dy droed fel na ddalier ef:

27Nac attal ddaioni rhag yr hwn sydd â hawl iddo,

Pan fo yngallu dy law ei wneuthur:

28Na ddywed wrth dy gymmydog “Dos, a dychwel,

Ac y foru y rhoddaf,” a chennyt (beth yn awr):

29Na lunia yn erbyn dy gymmydog ddrwg,

Ac yntau yn trigo yn hyderus gyda thi:

30Nac ymddadleu â neb yn ddïachos,

Os na wnaeth efe i ti ddrwg:

31Na chydorchesta â gwr treisig,

Ac na ddewis (yr un) o ’i holl ffyrdd ef,

32Canys ffieiddbeth gan Iehofah (yw) ’r gwyrawg,

Ond gyda ’r uniawn rai (y mae) Ei gyweithas;

33Melldith Iehofah (sydd) yn nhŷ ’r annuwiol,

Ond trigfa ’r cyfiawn rai a fendithia Efe;

34Dïau, y gwatwarus rai a watwar Efe,

Ond i ’r llariaidd rai y rhydd Efe ras.

35Anrhydedd, y doethion a ’i hetifeddant,

Ond yr ynfydion a ddyrchafa gwarth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help