I. Petr 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Crist, gan hyny, wedi dioddef yn y cnawd, chwithau hefyd ymarfogwch â’r un meddwl, canys yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd,

2a beidiodd â phechod, fel nad ddim mwyach wrth chwantau dynion, eithr wrth ewyllys Duw, y treulioch y gweddill o’ch amser yn y cnawd;

3canys digon yw’r amser a aeth heibio i weithredu ewyllys y cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, gwin-llydrwydd, cyfeddach, diotta, ac erchyll eulun-addoliadau;

4yn yr hyn y synnant, gan nad ydych yn cyd-redeg â hwynt i’r un geudy o ormodedd, gan gablu;

5y rhai a roddant gyfrif i’r Hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw.

6Canys er mwyn hyn, i’r meirw hefyd y pregethwyd, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd, ond y byddent byw yn ol Duw yn yr yspryd.

7Ond i bob peth, y diwedd sydd agos; byddwch bwyllog, gan hyny, ac yn sobr i weddïau.

8O flaen pob peth, byddwch a’ch cariad tuag at eich gilydd yn llwyr-frydig,

9canys cariad a orchuddia liaws o bechodau; yn lletteugar y naill i’r llall heb rwgnach;

10fel y bu i bob un dderbyn rhodd, gan ei gweinyddu o honoch yn eich plith eich hunain, megis disdeiniaid da o amryw ras Duw;

11os yw neb yn llefaru, megis yn llefaru oraclau Duw; os yw neb yn gweinyddu, megis yn gweinyddu o’r gallu a finistrir gan Dduw, fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i’r Hwn y mae’r gogoniant a’r arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.

12Anwylyd, na synnwch wrth y profiad tanllyd sy’n codi yn eich plith fel pe bai peth dieithr yn digwydd;

13eithr cymmaint ag yr ydych yn gyfrannogion o ddioddefiadau Crist, llawenychwch, fel yn natguddiad Ei ogoniant y llawenychoch dan orfoleddu.

14Os gwarthruddir chwi ag enw Crist, dedwydd ydych, canys, Yspryd y gogoniant ac Yspryd Duw, arnoch chwi y mae yn gorphwys;

15canys na fydded i neb o honoch ddioddef megis llofrudd neu leidr, neu ddrwg-weithredwr, neu megis arall-arolygwr;

16ond os megis Cristion, na fydded cywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn yr enw hwn:

17canys yr amser yw i ddechreu o’r farn, oddiwrth dŷ Dduw; ac os yn gyntaf oddiwrthym ni, pa beth fydd diwedd y rhai sy’n anufuddhau i Efengyl Dduw?

18Ac os y cyfiawn sydd braidd yn gadwedig; yr annuwiol a phechadur, pa le yr ymddengys?

19Felly hefyd y rhai sy’n dioddef yn ol ewyllys Duw, i Greawdwr ffyddlawn gorchymynont eu heneidiau trwy wneuthur yr hyn sy dda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help