1Carwr cerydd carwr gwybodaeth,
Ond casâwr argyhoeddiad (sydd) ysgrublaidd.
2Y da a ennill gymmeradwyaeth gan Iehofah,
Ond gwr o ddichellion a euoga Efe.
3Ni sicrhêir neb trwy ddrwg,
Ond gwreiddyn y cyfiawn rai nid ysgog.
4Gwraig rinweddol (yw) coron ei gwr,
Ond fel pydrni yn ei esgyrn (y mae) ’r waradwyddus.
5Meddyliau ’r cyfiawn rai (ynt) uniondeb,
Cyfarwyddiadau ’r annuwiolion (ynt) dwyll.
6Geiriau ’r annuwiolion (yw) cynllwyn am waed,
Ond genau ’r uniawn a’u gweryd hwynt.
7Dymchwelir yr annuwiolion ac ni byddant,
Ond tŷ ’r cyfiawn a saif.
8Yn ol ei bwyll y canmolir gwr,
Ond y gwyredig (ei) galon a â yn ddirmyg.
9Gwell y diystyredig a gwas ganddo,
Na ’r ymffrostiwr a diffygiol o fara.
10Gofala ’r cyfiawn am fywyd ei anifail,
Ond tosturi ’r annuwiolion,—creulonyn (yw).
11A lafurio ei dir a orddigonir o fara,
Ond a redo ar ol dyhirod (sy) ddiffygiol o feddwl.
12Dymuna ’r annuwiol rwyd y drygionus rai,
Ond gwreiddyn y rhai cyfiawn a rydd (Efe).
13Ynghamwedd gwefusau (y mae) magl y drygionus,
Ond allan o gyfyngder y daw ’r cyfiawn.
14 Trwy ffrwyth genau gwr y digonir ef â daioni,
A gorchwyl dwylaw dyn a delir iddo.
15Ffordd yr ynfyd (sydd) uniawn yn ei olwg oi hun,
Ond a wrandawo ar gynghor (sy) ddoeth.
16Yr ynfyd, mewn dydd y gwybyddir ei ddig ef,
Ond a gelo gywilydd (sydd) gall.
17A anadlo ffyddlondeb a fynega gyfiawnder,
Ond tyst gau, twyll.
18Y mae a faldordda fel trywaniad cleddyf,
Ond tafod y doethion iachâd (yw).
19Gwefus gwirionedd a sicrhêir am byth,
Ond tra yr amrantwyf (y mae) tafod gau.
20Twyll (sydd) ynghalon seiri drygioni,
Ond gyda chynghorwyr hedd (y mae) llawenydd.
21Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim adfyd,
Ond yr annuwiolion a lenwir âg aflwydd.
22Ffieidd-dra Iehofah (yw) genau gau,
Ond arferwyr gwirionedd (yw) Ei hyfrydwch.
23Gwr call (sy)’n celu gwybodaeth,
Ond calon ynfydion a gyhoedda ffolineb.
24Llaw’r llafurus a lywodraetha,
Ond dïogi a fydd i ’w drethu.
25Gofid ynghalon gwr a’i crymma hi,
Ond peth ffodus a’i llawenhâ.
26Dangos y ffordd i’w gyfaill a wna ’r cyfiawn,
Ond ffordd yr annuwiolion a’u dwg ar gyfeiliorn.
27Ni rostia syrthni ei helgig,
Ond golud gwerthfawr i ddyn (yw)’r llafurus.
28Yn llwybr cyfiawnder (y mae) bywyd,
A ffordd ei sathrfa,—nid angau (yw).
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.