Datguddiad 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ar ol y pethau hyn edrychais, ac wele ddrws wedi Ei agoryd yn y nef; a’r llais cyntaf a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, dywedyd o un, Tyred i fynu yma, a dangosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar ol hyn.

2Yn uniawn yr oeddwn yn yr yspryd: ac, wele, gorsedd-faingc oedd wedi ei gosod yn y nef; ac ar yr orsedd-faingc un yn eistedd.

3Ac yr Hwn yn Ei eistedd, tebyg oedd, i’r golwg, i faen iaspir a sardin; ac enfys oedd o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg, i’r golwg, i smaragdus;

4ac o amgylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gorsedd-faingc ar hugain; ac ar y bedair gorsedd-faingc ar hugain y gwelais henuriaid yn eu heistedd, wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion, ac ar eu pennau goronau aur.

5Ac o’r orsedd-faingc dyfod allan y mae mellt, a lleisiau, a tharanau. A saith o lusernnau tân oedd yn llosgi o flaen yr orsedd-faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw.

6Ac o flaen yr orsedd-faingc yr oedd fel pe bai fôr o wydr, tebyg i grustal; ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac o amgylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ol.

7A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew; a’r ail anifail yn debyg i lo; a’r trydydd anifail a chanddo wyneb fel yr eiddo dyn; a’r pedwerydd anifail yn debyg i eryr yn ehedeg.

8A’r pedwar anifail, bob un o honynt a chanddo chwech o adenydd, ydynt o amgylch ac oddifewn yn llawn llygaid; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct yw’r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd ac yr Hwn sydd yn dyfod.

9A phan roddo’r anifeiliaid ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd,

10syrth y pedwar henuriad ar hugain ger bron yr Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, ac addolant yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd, a bwriant eu coronau o flaen yr orsedd-faingc,

11gan ddywedyd, Teilwng wyt, ein Harglwydd a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, canys Tydi a greaist bob peth; ac o herwydd Dy ewyllys yr oeddynt, ac y’u crewyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help