Eshaiah 20 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XX.

1Yn y flwyddyn y daeth Tharthan i Ashdod, pan ddanfonodd Sargon Brenhin Assyria ef, ac yr ymladdodd yn erbyn Ashdod ac yr ynnillodd hi;

2yr amser hwnnw y llefarodd Iehofah trwy law Eshaiah mab Amots, gan ddywedyd,

Dos, a dattod y sachlïain oddi am dy lwynau,

A’th esgidiau a ddiosgi oddi am dy draed.

3Ac efe a wnaeth felly, gan rodio ’n noeth ac heb esgidiau; a dyweddodd Iehofah,

Megis y rhodiodd Fy ngwas Eshaiah yn noeth ac heb esgidiau,

Am dair blynedd, yn arwydd ac yn argoel

Yn erbyn yr Aipht ac yn erbyn Cwsh,

4Felly yr arwain brenhin Assyria

Gaethion yr Aipht, a chaeth-glud Cwsh,

Y llangciau a’r henafgwŷr, yn noethion ac heb esgidiau,

Ac yn din-noeth, yn warth i’r Aipht:

5A brawycha (pobl Ashdod), a chywilyddiant o achos Cwsh, eu gobaith hwynt,

Ac o achos yr Aipht, eu prydferthwch.

6Ac fe ddywed preswyliwr y wlad hon yn y dydd hwnnw,

Wele, fel hyn (y mae) ein gobaith ni,

Yr hwn y ffoisom atto am gymmorth

I’n gwared ni rhag brenhin Assyria!

A pha fodd y diangwn ninnau?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help