1Paul, apostol (nid gan ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist a Duw Dad, yr Hwn a’i cyfododd Ef o feirw),
2a’r holl frodyr y sydd gyda mi, at eglwysi Galatia.
3Gras i chwi a heddwch oddiwrth Dduw Dad a’n Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn a roddes ei hun am ein pechodau,
4fel y’n gwaredai allan o’r byd drwg presennol, yn ol ewyllys ein Duw a Thad;
5i’r Hwn y bo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6Rhyfeddu yr wyf eich bod mor fuan yn symmud oddiwrth yr hwn a’ch galwodd trwy ras Crist, i efengyl arall;
7yr hon nid yw arall, ond rhai dynion sydd a’ch cythryflant ac yn ewyllysio dattroi efengyl Grist.
8Eithr pe bai hyd yn oed nyni, neu angel o’r nef, yn efengylu i chwi amgen na’r hon a efengylasom i chwi, anathema fydded.
9Fel y dywedasom o’r blaen, yr awr hon hefyd trachefn yr wyf yn dywedyd, Os bydd i neb efengylu i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, anathema fydded.
10Canys yn awr ai dynion yr wyf yn eu perswadio, ai ynte Dduw? Ai ceisio yr wyf ryngu bodd dynion? Os etto rhyngu bodd dynion y byddwn, gwas i Grist ni fyddwn.
11Canys hyspysu yr wyf i chwi frodyr, am yr Efengyl a efengylwyd genyf, nad ydyw yn ol dyn;
12canys myfi, nid gan ddyn y derbyniais hi, nac y’m dysgwyd, eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist;
13canys clywsoch am fy ymarweddiad gynt yng nghrefydd yr Iwddewon, mai tros fesur yr erlidiwn Eglwys Dduw, ac y’i anrheithiwn;
14a myned rhagof yng nghrefydd yr Iwddewon tu hwnt i lawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl, gan fod yn fwy dros ben yn selog tros draddodiadau fy nhadau.
15Ond pan foddlonwyd Duw, yr Hwn a’m neillduodd o groth fy mam, ac a’m galwodd trwy Ei ras,
16i ddatguddio Ei Fab ynof fel yr efengylwn Ef ym mhlith y cenhedloedd, yn uniawn nid ymgynghorais â chnawd a gwaed;
17ac nid aethum i fynu i Ierwshalem at y rhai oeddynt o’m blaen i yn apostolion, eithr aethym ymaith i Arabia; a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
18Gwedi hyny, ar ol tair blynedd yr aethum i fynu i Ierwshalem i ymweled â Petr, ac arhosais gydag ef bymtheng niwrnod:
19ond arall o’r apostolion ni welais, oddieithr Iago brawd yr Arglwydd.
20A’r pethau yr wyf yn eu hysgrifenu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn celwyddu.
21Gwedi hyny, daethum i barthau Suria a Cilicia,
22ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb gan eglwysi Iwdea a oeddynt yng Nghrist;
23ond yn unig clywed yr oeddynt, Yr hwn a’n herlidiai gynt, sydd yr awr hon yn efengylu y ffydd yr oedd efe gynt yn ei hanrheithio;
24ac ynof y gogoneddent Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.