Psalmau 51 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LI.

1-2I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd, pan ddaeth Nathan y prophwyd atto, wedi iddo fyned i mewn at Bathsheba.

3Bydd radlawn wrthyf, O Iehofah, yn ol Dy drugarowgrwydd,

Yn ol amlder Dy dosturiaethau, dilea fy nghamweddau;

4Llwyr-olch fi oddi wrth fy anwiredd,

Ac oddi wrth fy mhechod glanhâ fi!

5Canys fy nghamweddau, myfi wyf yn eu cydnabod,

Ac fy mhechod (sydd) ger fy mron beunydd.

6Yn Dy erbyn Di, Dydi yn unig, y pechais,

A’r hyn sy ddrwg yn Dy olwg a wnaethum;

Felly cyfiawn wyt wrth lefaru o Honot,

A phur wyt wrth farnu o Honot.

7Wele, mewn anwiredd y’m ganed i,

Ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf;

8Wele, mewn gwirionedd yn yr arennau yr ymhyfrydi Di,

Ac yn y (galon) ddirgel yr addysgi i mi ddoethineb!

9Pura fi âg isop, fel y byddwyf lân,

Golch fi, fel rhagor yr eira y byddwyf wyn!

10Par i mi glywed gorfoledd a llawenydd,

Llawen-lamed yr esgyrn a ddrylliaist!

11Cuddia Dy wyneb oddi wrth fy mhechod,

A’m holl anwireddau dilea!

12Calon lân a fyddo it’ ei chrêu ynof, O Dduw,

Ac yspryd safadwy a fyddo it’ ei adnewyddu o’m mewn!

13Na fwrw fi ymaith oddi ger Dy fron,

A’th yspryd sanctaidd na chymmer oddi wrthyf!

14Dychwel i mi lawenydd Dy gymmorth,

Ac âg yspryd ewyllysgar cynnal fi,

15(A) dysgaf i’r gwrthgilwyr Dy fyrdd,

A phechaduriaid a ddychwelant Attat!

16Gwared fi oddi wrth gosp gwaed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth,

Ac fe lawen-gân fy nhafod am Dy drugaredd!

17O Arglwydd, fy ngwefusau bydded it’ eu hagor,

A’m genau a fynega Dy foliant;

18Canys nid ymhyfrydi mewn aberth, fel y’i rhoddwn,

Poethoffrwm ni chwennychi;

19Aberthau Duw (ydynt) yspryd drylliedig,

Calon ddrylliedig a briwedig, O Dduw, ni ddirmygi.

20Gwna ddaioni, yn Dy garedigrwydd, i Tsïon,

Adeilada furiau Ierwshalem;

21Yna yr ymhyfrydi yn yr ebyrth iawn-ddyladwy, y poethoffrwn cyfan,

Yna yr esgyn teirw ieuaingc ar Dy allor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help