II. Corinthiaid 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A phenderfynais hyn ynof fy hun, mai mewn tristwch na ddeuwn trachefn attoch:

2canys os myfi a’ch tristaf chwi, yna pwy yw’r hwn yn fy llawenhau, oddieithr yr hwn a dristawyd genyf?

3Ac ysgrifenais hyn ei hun fel na fyddai i mi, wedi dyfod o honof, gael tristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd ganddynt, gan ymddiried yn yr oll o honoch fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch.

4Canys o lawer o orthrymder a chyfyngder calon yr ysgrifenais attoch â llawer o ddagrau, nid fel y’ch tristaid, eithr fel y byddai’r cariad yn hyspys i chwi, yr hwn sydd genyf yn fwy tros fesur tuag attoch.

5Ac os bu i neb beri tristwch, nid i myfi y parodd dristwch, eithr o ran (fel na phwyswyf arnoch) i’r oll o honoch.

6Digon i’r cyfryw ddyn yw’r cerydd hwn gan y rhan fwyaf; ac felly i’r gwrthwyneb;

7yn hytrach, maddeuwch chwi a diddenwch ef, rhag ysgatfydd trwy ei dristwch gormodol y llyngcer y cyfryw.

8Gan hyny, attolygaf i chwi gadarnhau eich cariad tuag atto:

9canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifenais, fel y gwybyddwn y prawf o honoch ai ymhob peth yr ydych yn ufudd.

10Ac i’r hwn yr ydych yn maddeu peth, minnau hefyd wyf; canys yr hyn a faddeuais i, os rhyw beth a faddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais ym mherson Crist,

11fel nad ynniller trosom gan Satan, canys o’i ddychymmygion ef nid ydym anwybodus.

12Ac wedi dyfod i Troas er Efengyl Grist, a drws wedi ei agoryd i mi yn yr Arglwydd,

13ni chefais orphwysdra i’m hyspryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr wedi canu yn iach iddynt, aethum allan i Macedonia.

14Ond i Dduw y bo’r diolch, yr Hwn sydd bob amser yn ein harwain yn orfoleddus yng Nghrist, ac yn amlygu trwom arogledd y wybodaeth am Dano ymhob lle;

15canys per-arogl Crist ydym i Dduw, yn y rhai sy’n cael eu hachub, ac yn y rhai sy’n myned ar goll;

16i’r naill yn arogl o farwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill yn arogl o fywyd i fywyd. Ac i’r pethau hyn pwy sydd ddigonol?

17Canys nid ydym, fel y rhan fawr, yn llygru gair Duw; eithr fel o burdeb, eithr fel o Dduw yngwydd Duw yng Nghrist yr ym yn llefaru.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help