1I’r blaengeiniad. Eiddo Dafydd, Psalm.
2A gobaith y gobeithiais ar Iehofah,
A gogwyddodd Efe Ei glust, a chlybu fy ngwaedd,
3A chododd fi o bydew distryw, allan o’r llacca bawlyd,
Ac ar graig y gosododd Efe fy nhraed,
Y cadarnhâodd Efe fy nghamrau;
4A rhoddodd yn fy ngenau gân newydd, (sef)
“Moliant i’n Duw ni!
Gwêl llaweroedd (hyn) ac ofnant,
Ac ymhyderant ar Iehofah;
5Dedwydd y gwr a osodo Iehofah yn hyder iddo ei hun,
Ac nad ymgyrcho at y trahaus rai, neu’r rhai a wyrant at gelwydd!
6Lliosog y gwnaethost Tydi, O Iehofah fy Nuw,
Dy ryfeddodau a’th amcanion tuag attom;
—Nid dim (sydd) i’w gystadlu â Thydi,—
Pe mynegwn, a phe traethwn (hwynt),
Rhy aml ŷnt i’w rhifo;”
7Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist,
Fy nghlustiau a agoraist i mi;
Poeth offrwm a phech-aberth nis gofynaist,
8Yna y dywedais, “Wele, daethum;
Yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd i mi;”
9Yngwneuthur Dy ewyllys, O fy Nuw, yr ymhyfrydaf,
A’th gyfraith (sydd) ynghanol fy ymysgaroedd;
10Cyhoeddais (Dy) gyfiawnder yn y gynnulleidfa liosog,
Wele, fy ngwefusau nid atteliais,
—O Iehofah, Tydi a’i gwyddost!
11Dy gyfiawnder ni chuddiais o fewn fy nghalon,
Dy ffyddlondeb a’th waredigaeth a draethais,
Ni chelais Dy radlondeb a’th ffyddlonder oddi wrth y gynnulleidfa liosog.
12Tydi, O Iehofah,—nid attelit Dy drugareddau oddi wrthyf,
Dy radlondeb a’th ffyddlonder beunydd a’m cadwant!
13O herwydd fy nghylchynu gan ddrygau hyd nad oes (eu) rhifo,
Fy ngoddiweddu gan fy mhechodau fel na allwyf weled,
—Aml ynt rhagor gwallt fy mhen,
Ac fy nghalon a’m gadawodd,—
14Rhynged bodd it’, O Iehofah, fy ngwaredu,
O Iehofah, i’m cymmorth tyred ar frys!
15Cywilyddier, a gwrided ynghŷd
Y rhai a geisiant fy einioes, i’w difetha;
Gyrrer yn eu hol, a gwaradwydder
Y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi;
16Hurtier, o herwydd eu cywilydd,
Y rhai a ddywedant wrthyf “Ha, ha!”
17Gorfoledded a llawenyched ynot Ti y rhai oll a’th geisiant,
Dywedyd bob amser, “Mawryger Iehofah,” a wnaed carwyr Dy iachawdwriaeth!
18Etto myfi,—truan ac anghenus (wyf,) —boed i’m Harglwydd feddwl am danaf!
Fy nghymmorth, a’m gwaredydd Tydi (ydwyt)!
O fy Nuw, nac oeda!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.