1I’r blaengeiniad, ar Duw;
12Estynodd hi ei hamglymyddion hyd y môr,
Ac hyd at yr afon ei hysgewyll;
13Pa ham y rhwygaist ei chaeau hi,
Fel y tynno holl dramwywyr y ffordd (ei grawn) hi,
14(Ac) arni yr ymbortho ’r baedd o’r coed,
Ac y’i poro ymsymudydd y maes?
15O Dduw’r lluoedd, dychwel, attolwg,
Edrych o’r nefoedd a gwêl,
Ac ymwêl â’r winwydden hon!
16Ac amddiffyn hi yr hon a blannodd Dy ddeheulaw!
A thros y mab a gadarnheaist i Ti Dy hun,
17—Llosgwyd hi mewn tân, torrwyd hi i lawr,
Gan gerydd Dy wyneb y difethir hwynt.—
18Bydded Dy law dros wr Dy ddeheulaw,
Tros fab y dyn a gadarnheaist i Ti Dy hun,
19Ac ni chiliwn yn ol oddi wrthyt Ti!
Bywhâ ni ac ar Dy enw y galwn!
20O Iehofah Dduw y lluoedd, dychwel ni,
Par lewyrchu Dy wyneb—ac achubir ni!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.