Yr Actau 24 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac ar ol pum niwrnod, daeth yr archoffeiriad Ananias i wared, ynghyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertulus, y rhai a hyspysasant i’r rhaglaw yn erbyn Paul.

2A phan alwesid ef, dechreuodd Tertulus ei gyhuddo ef gan ddywedyd,

3Gan mai llawer o heddwch sydd genym trwot ti, a diwygiadau yn cael eu gwneud i’r genedl hon trwy dy rag-welediad di, ymhob modd ac ymhob man y derbyniwn ef, O ardderchoccaf Ffelics, gyda phob diolch.

4Ond fel na flinwyf di rhy hir, deisyfiaf arnat ein gwrando mewn ychydig eiriau, o’th hynawsedd.

5Canys wedi cael y dyn hwn yn bla, ac yn codi terfysgau ymhlith yr holl Iwddewon y sydd trwy’r byd, ac yn bennaeth sect y Natsareaid;

6yr hwn hefyd a geisiodd halogi y deml; yr hwn hefyd a ddaliasom;

8a chan yr hwn y gelli, gan ei holi ef, wybod am yr holl bethau hyn o’r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef.

9A chyd-ymosod arno a wnaeth yr Iwddewon, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.

10Ac attebodd Paul, ar ol amneidio o’r rhaglaw iddo i ddywedyd,

Gan wybod mai er’s llawer o flynyddoedd yr wyt ti yn farnwr i’r genedl hon, yn galonog, o ran y pethau mewn perthynas â mi,

11yr amddiffynaf fy hun, a thi yn medru gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod i mi er pan aethum i fynu i addoli yn Ierwshalem:

12ac nid yn y deml y cawsant fi yn ymddadleu â neb neu yn codi terfysg o’r bobl, nac yn y sunagogau, nac yn y ddinas.

13A phrofi i ti ni allant, y pethau am y rhai y maent yn awr yn fy nghyhuddo.

14Ond cyfaddefaf hyn i ti, mai yn ol y Grefydd yr hon a alwant “sect,” felly yr wyf yn gwasanaethu Duw ein tadau, gan gredu yr holl bethau y sydd yn ol y Gyfraith, ac a ysgrifenwyd yn y Prophwydi;

15a gobaith genyf tuag at Dduw, yr hwn y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod adgyfodiad ar fedr bod, o’r cyfiawnion ac o’r anghyfiawnion hefyd.

16Ac yn hyn yr wyf fi fy hun hefyd yn ymdrechu, i fod â chydwybod ddidramgwydd genyf tuag at Dduw a dynion yn wastadol.

17Ac ar ol blynyddoedd lawer, daethum i ddwyn elusen i’m cenedl, ac offrymmau;

18ac ar eu canol y cawsant fi, wedi fy nglanhau, yn y deml, nid gyda thwrf na chyda therfysg.

19Ond rhai Iwddewon o Asia, y rhai a ddylasent fod yn bresennol ger dy fron, a chyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn;

20neu bydded i’r rhai hyn eu hunain ddywedyd pa anghyfiawnder a gawsant wrth sefyll o honof ger bron y cynghor,

21arall nag ynghylch yr un llef hon, yr hon a lefais pan yn eu plith y safwn, sef Am adgyfodiad y meirw myfi a fernir heddyw ger eich bron.

22Ond eu hoedi a wnaeth Ffelics, gan wybod yn fanylach y pethau ynghylch y Grefydd, gan ddywedyd, Pan fydd Lusias y milwriad, wedi dyfod i wared, penderfynaf eich matterion;

23wedi archu i’r canwriad iddo gael ei gadw, ac i fod ag ysgafnhad ganddo, ac na rwystrai i neb o’i berthynasau ei wasanaethu ef.

24Ac ar ol rhai dyddiau, wedi dyfod o Ffelics ynghyda Drusilla ei wraig, a hi yn Iwddewes, danfonodd am Paul,

25a chlywodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu: ac wrth ymresymmu o hono am gyfiawnder a diweirdeb a’r farn ar ddyfod, wedi myned yn ddychrynedig, Ffelics a attebodd, Am yr amser presennol, dos ymaith; ond hamdden a gymmeraf, a galwaf am danat;

26ar yr un pryd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd, yn fynychach y danfonai am dano, ac y chwedleuai ag ef.

27Ond dwy flynedd wedi eu cyflawni, cafodd Ffelics olynydd, Porcius Ffestus; a chan ewyllysio ennill ffafr gyda’r Iwddewon, gadawodd Paul yn rhwym.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help