Iago 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Nac ewch yn llawer o ddysgawdwyr, fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn,

2canys llawer tripiad a wnawn, yr oll o honom; ac os ar air na thripia neb, hwnw sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno’r holl gorph hefyd.

3Ac os ffrwynau’r meirch a roddwn yn eu safnau fel yr ufuddhaont i ni, eu holl gorph hefyd a drown o amgylch.

4Wele, y llongau hefyd, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, a droir o amgylch â llyw bychan iawn, lle y mae tuedd y llywydd yn ewyllysio.

5Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, a phethau mawrion a ffrostia. Wele, gan mor ychydig dân cymmaint coed a gynneuir.

6A’r tafod sydd dân; y byd o anghyfiawnder, y tafod, sydd yn ein haelodau, yr hwn sy’n halogi’r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna.

7Canys pob math o wyllt-filod ac ehediaid, ac o gropiedyddion, a phethau yn y môr, sy’n cael eu dofi, ac wedi cael eu dofi,

8gan natur ddynol; ond y tafod, nid oes neb o ddynion a all ei ddofi ef: drwg diorphwys yw, gorlawn yw o wenwyn angeuol.

9Ag ef y bendithiwn yr Arglwydd a Thad; ac ag ef y melldithiwn ddynion, y rhai ar gyffelybiaeth Duw y’u gwnaed.

10O’r un genau, dyfod allan y mae bendithiad a melldithiad! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly.

11A ydyw ffynnon, o’r un llygad, yn tywallt allan yr hyn sydd felus a’r hyn sydd chwerw?

12A all, fy mrodyr, pren ffigys ddwyn olifaid; neu winwydden, ffigys? Ni all chwaith yr hallt roddi dwfr melus.

13Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? Dangosed, trwy ei ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.

14Ond os eiddigedd chwerw a chynnen sydd genych yn eich calon, nac ymffrostiwch, a chelwyddu,

15yn erbyn y gwirionedd: nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; eithr daearol, anfeilaidd, cythreulig yw;

16canys lle y mae eiddigedd a chynnen, yno y mae afreolaeth a phob gweithred ddrwg.

17Ond y doethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, a chwedi’n yn heddychlawn, addfwyn, hawdd ei berswadio, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb ammeuaeth,

18ac yn ddiragrith: a ffrwyth cyfiawnder, mewn heddwch yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur heddwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help