Psalmau 22 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXII.

1I’r blaengeiniad. Ar “Ewig y wawr.” Psalm o eiddo Dafydd.

2Fy Nuw, fy Nuw, pa ham y’m gadewaist,

Gan ymbellhâu oddi wrth fy ngwarediad, (a) geiriau f ’uchenaid?

3Fy Nuw, llefain yr wyf y dydd—ond ni wrandewi,

A’r nos—ond heb ddim llonyddwch mi:

4Etto, Tydi (wyt) sanctaidd,

Y Gorseddawg ym moliant Israel;

5Ynot Ti yr ymhyderodd ein tadau,

Ymhyderasant, a gwaredaist hwynt;

6Arnat Ti y llefasant, a dïangc a fu iddynt,

Ynot Ti yr ymhyderasant, ac nid eu cywilyddio a gawsant:

7Eithr myfi—y pryfyn ac nid gwr,

Gwaradwydd y werin, dirmygedig gan y bobl,—

8Pawb a’m gwelont a’m gwatwarant,

A ledant wefusau, a ysgydwant ben, (gan ddywedyd)

9“Ymddiriedodd yn Iehofah, gwareded Efe ef,

Achubed Efe ef, canys ymhyfrydodd Ynddo,”

10(Ië), canys Tydi a’m dygaist allan o’r groth,

Yr Hwn a’m gwnaethost yn hyderus ar fronnau fy mam,

11 teirw lawer,

Cedyrn Bashan a’m hamgylchasant,

14Agorasant arnaf eu safnau; —

(Ië) llew ar fedr dryllio ac yn rhuo:

15 Fel dyfroedd y’m tywalltwyd allan,

Ymwahanodd fy holl esgyrn;

Aeth fy nghalon fel cwyr,

Hi a doddodd ynghanol fy mherfedd;

16 i lwch angau y’m dygi;

17Canys o’m hamgylch y daeth cwn,

Cynnulleidfa’r drwg-weithredwyr a’m hamgylchodd,

Gan drywanu fy nwylaw a’m traed,

18—Cyfrif fy holl esgyrn yr wyf:—

Hwynt-hwy ŷnt yn tremio ac yn syllu arnaf,

19 Rhannu fy nillad y maent yn eu mysg,

Ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren;

20Ond Tydi, O Iehofah,—nac ymbellhâ,

O fy Nghadernid, i’m cymmorth tyred ar frys!

21Dyro ddïangc rhag y cleddyf—i’m henaid,

Rhag gallu’r ci—i’m bywyd!

22Gwared fi rhag safn y llew,

Ac o blith cyrn y buail erglyw fi!

23Mynegaf Dy enw i’m brodyr,

Ynghanol y gynnulleidfa y’th folaf, (gan ddywedyd)

24“Y rhai sy’n ofni Iehofah, molwch Ef,

Holl hâd Iacob, gogoneddwch Ef,

Ac arswydwch Ef, holl hâd Israel,

25Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y cystuddiol,

Ac ni chuddiodd Ei wyneb rhagddo,

Ond pan lefodd efe Arno, y gwrandawodd,”

26Oddi wrthyt Ti (y mae) fy mawl yn y gynnulleidfa fawr,

Fy addunedau a dalaf ger bron y rhai a’i hofnont Ef;

27Bwytta a gaiff y cystuddiedig a’u gorddigoni,

Moli Iehofah a gaiff y rhai a’i ceisiont Ef,

—Byw fydd eich calon hyd byth—

28Adgofio a throi at Iehofah a wna holl derfynau ’r ddaear,

A gwarogaethu ger Dy fron Di a wna holl dylwythau ’r cenhedloedd,

29Canys eiddo Iehofah (yw)’r Deyrnasiaeth,

A’r Llywodraethwr ymhlith y cenhedloedd (yw Efe);

30Bwytta a gwarogaethu a wna holl gyfoethogion y ddaear,

Ger Ei fron Ef yr ymgrymma yr oll sydd ar suddo i’r llwch,

(A’r neb) na all gadw’n fyw ei enaid:

31Yr eppil a’i gwasanaetha Ef,

Adroddir am Iehofah i genhedlaeth (arall):

32Dyfod a wnant hwy, ac adroddant Ei gyfiawnder Ef,

I bobl a enir, o herwydd gweithredu o Hono Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help