Iöb 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIV.

1 Daearolyn ganedig o ddynes,

Bỳr o ddyddiau a gorlawn o helbul,

2Fel blodeuyn, blaguro y mae efe — ac yn gwywo,

Ac yn myneb heibio fel cysgod, ac nid erys:

3Dïau, ar hyn (o beth) yr agoraist Dy lygaid,

Ië, myfi a ddygaist Di i farn gyda Thi.

4O na roddid un glân allan o’r aflan!

Nid (oes) yr un (felly)!

5 O herwydd mai rhagderfynedig (yw) ei ddyddiau,

Bod rhifedi ei fisoedd gyda Thi,

A’i derfynau a osodaist ac na chaiff efe fyned trostynt,

6Tro Dy lygad oddi arno fel y gorphwyso,

Ac y caffo, fel cyflogwas, hyfrydwch ei ddydd:

7Canys y mae gan bren obaith,

Os torrir ef efe etto a adflagura,

A’i ysgewyllen ni pheidia;

8Os heneiddio yn y ddaear a wna ei wreiddyn,

Ac yn y llwch y marweiddia ei foncyff,

9Oddi wrth arogl y dyfroedd y blodeua efe,

Ac y bwrw ganghennau fel planhigyn.

10Ond gwr sy’n marw ac a orchreinir;

Ac fe drenga dyn, — a pha le (y mae efe)?

11Fe rêd dyfroedd allan o lỳn,

A’r afon a ddihyspyddir ac a sycha;

12Felly dyn a orwedd ac ni chyfyd,

Hyd na (bydd) nefoedd ni ddihunant hwy

Ac ni ddeffröant o’u cwsg.

13O nad yn annwn y’m cuddit,

Y’m celit, nes troi Dy lid ymaith,

Y gosodit i mi derfyn, ac y’m cofit!

14Os trenga gwr, a fydd efe byw eilwaith?

(Os felly) holl ddyddiau fy milwriaeth mi a obeithiwn

Hyd oni ddeuai fy nghyfnewidiad.

15 Galw Di, a mi a’th attebaf;

Wrth waith Dy ddwylaw tyner-ymdeimla!

16Canys, yn awr, fy nghamrau yr wyt yn eu rhifo,

Ac onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?

17Seliwyd fy nghamwedd mewn côd,

A gwniaist i fynu fy anwiredd!

18Ac, yn ddïau, mynydd gan syrthio sy’n diflannu,

A chraig a symmudir o’i lle;

19Cerrig a dreulia dyfroedd,

Eu llifeiriant sy’n golchi ymaith lwch y ddaear;

Felly gobaith adyn yr wyt Ti yn ei ddistrywio:

20Ymosod arno yr wyt beunydd, ac efe a ymedy,

Gan newidio ei wyneb Ti a’i danfoni ymaith:

21 Anrhydeddir ei feibion — ond ni wybydd efe (hynny,)

Neu hwy a ostyngir — ond ni ddeall efe ddim am danynt;

22 Yn unig am dano ef ei hun ei gnawd a ddoluria,

A’i enaid am dano ef ei hun a alara.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help