Iago 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1O ba le y mae rhyfeloedd, ac o ba le ymladdau yn eich plith? Onid oddi yma, o’ch melus-chwantau y sy’n milwrio yn eich aelodau?

2Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: lladd ac eiddigeddu yr ydych, ac ni ellwch gaffael: ymladd a rhyfela yr ydych. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn.

3Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, am mai yn ddrygionus y gofynwch, fel ar eich melus-chwantau y gwarioch.

4Godineb-wragedd, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? Pwy bynnag, gan hyny, a ewyllysio fod yn gyfaill y byd, gelyn Duw y’i gwneir.

5A dybiwch chwi mai yn ofer y mae’r Ysgrythyr yn dywedyd? Ai at gynfigen yr hiraetha’r Yspryd, yr Hwn y gwnaeth Efe Iddo drigo ynom?

6Ond gras mwy a rydd Efe: o herwydd paham y dywaid, Yn erbyn beilchion y mae Duw yn Ei osod Ei hun, ond i’r rhai gostyngedig y rhydd ras.

7Ymddarostyngwch, gan hyny, i Dduw; ond gwrthsefwch ddiafol, a ffy oddiwrthych.

8Nesewch at Dduw, ac nesau attoch a wna Efe. Glanhewch eich dwylaw, bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi ddau-ddyblyg eich meddwl.

9Ymgystuddiwch, a galerwch, a gwylwch. Bydded i’ch chwerthin ei droi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch.

10Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, a dyrchafa Efe chwi.

11Na leferwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Yr hwn sy’n llefaru yn erbyn brawd, neu yn barnu ei frawd, llefaru yn erbyn y Gyfraith y mae, ac yn barnu’r Gyfraith; ac os y Gyfraith a ferni, nid wyt wneuthurwr y Gyfraith, eithr ei barnwr.

12Un yw’r Cyfraith-roddwr a Barnwr, yr Hwn sy’n abl i achub ac i ddistrywio. Ond tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu dy gymmydog?

13Deuwch yn awr, y rhai yn dywedyd, Heddyw, neu y foru, yr awn i’r ddinas hon; a threuliwn yno flwyddyn,

14a marchnattawn, ac ennillwn, y rhai ni wyddoch yr hyn a berthyn i’r “foru;” (pa fath yw eich bywyd? Canys tarth ydych, yr hwn sydd am ychydig yn ymddangos, a chwedi’n yn diflannu;)

15yn lle dywedyd o honoch, Os yr Arglwydd a’i myn, byw fyddwn a gwnawn hyn neu hyny.

16Ond yn awr, ymffrostio yr ydych yn eich gwag-ogoniant; pob ymffrost o’r fath, drwg yw.

17I’r hwn sy’n gwybod, gan hyny, pa sut i wneuthur daioni, ac nad yw yn ei wneuthur, yn bechod iddo ef y mae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help