1Wrth Babilon, yno yr eisteddasom ac y wylasom,
Wrth gofio o honom Tsïon;
2— Ar yr helyg ynddi hi
Y crogasom ein telynnau —
3Canys yno y gofynodd ein caethgludwyr i ni am eiriau cân,
A’n cystuddwyr am hyfrydwch, (gan ddywedyd)
4“Cenwch i ni o gân Tsïon.”
Pa fodd y canasem ni gân Iehofah
Ar wyneb tir yr estron?
5Os anghofiaf di, Ierwshalem,
Anghofied fy neheulaw (fi)!
6Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau
Os na chofiaf di,
Os na dderchafaf Ierwshalem
Goruwch pennaeth fy hyfrydwch.
7Cofia, Iehofah, feibion Edom
Yn nydd Ierwshalem,
Y rhai a ddywed’sant, “Dinoethwch, dinoethwch
Hyd at y sylfaen ynddi hi.”
8O ferch Babilon, y ddifrodedig,
Dedwydd a lawn-dalo i ti
Dy weithred a’r a wnaethost i ni!
9Dedwydd a gymmero afael ar, ac a chwilfriwio,
Dy blant di yn erbyn y graig!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.