1Molwch Iah!
Clodforwch Iehofah, canys da (yw),
O herwydd yn dragywydd (y mae) Ei drugaredd!
2Pwy a draetha gadarn weithredoedd Iehofah,
A hyspysa Ei holl fawl?
3Gwỳn eu byd a gadwont uniondeb,
A wnelo gyfiawnder bob amser!
4Cofia fi, O Iehofah, â’th raslondeb i’th bobl,
Ymwel â mi â’th iachawdwriaeth,
5Fel y gwelwyf ddaioni Dy etholedigion,
Fel y llawenychwyf yn llawenydd Dy genedl,
Fel yr ymffrostiwyf ynghŷda’th etifeddiaeth!
6Pechasom fel ein tadau,
Gwyrasom, camweddasom!
7Ein tadau yn yr Aipht nid ystyriasant Dy ryfeddodau,
Ni feddyliasant ar amlder Dy drugareddau,
Eithr gwrthryfelasant wrth y môr, y môr chwynog;
8Etto, achubodd Efe hwynt er mwyn Ei enw,
I beri gwybod Ei gadernid;
9A sennodd y môr chwynog,—a sychodd yntau,—
A gwnaeth iddynt fyned trwy’r tonnau fel (trwy) anialdir;
10Ac achubodd hwynt o law y casâwr,
A rhyddhâodd hwynt o law y gelyn,
11—Ond tôdd y dyfroedd y gorthrymwyr,
Nid un o honynt a adawyd!—
12Yna y credasant Ei eiriau Ef,
Y canasant Ei fawl!
13Brysiasant i anghofio Ei weithredoedd,
Heb ddisgwyl o honynt wrth Ei gynghor Ef;
14A blysiasant â blys yn yr anialwch,
A themtiasant Dduw yn y diffaethwch,
15—A rhoddodd Efe iddynt eu henaid!—
16A chynfigennasant wrth Moshe yn y gwersyll,
Wrth Aharon, sant Iehofah,
17—Ymagorodd y ddaear a llyngcodd Dathan,
A thôdd dros fagad Abiram,
18Ac ysodd tân eu bagad hwynt,
Fflam a losgodd yr annuwiolion!
19Gwnaethant lo yn Horeb,
Gwarogaethasant i ddelw dawdd,
20A newidiasant eu Gogoniant
Am lun eidion yn pori glaswellt;
21Anghofiasant Dduw a’u hachubodd,
A wnelsai bethau mawrion yn yr Aipht,
22Rhyfeddodau yn nhir Ham,
Pethau ofnadwy wrth y môr chwynog;
23Yna y diystyrasant y tir dymunol
Heb gredu o honynt Ei air Ef,
25Ond grwgnachasant yn eu pebyll
Heb wrando o honynt ar lais Iehofah;
26Yna y cododd Efe Ei law (i dyngu) am danynt,
I’w cwympo yn yr anialwch,
27Ac i gwympo eu hâd ym mysg y cenhedloedd,
Ac i’w gwasgaru yn y tiroedd!
28Ac ymgyssylltasant â Baal Peor,
Bwyttasant ebyrth y meirw;
29Yna y cyffroisant Ef â’u gweithredoedd,
Ac fe ruthrodd arnynt y pla!
30A chyfododd Pinehas, a gwnaeth farn,
Ac attaliwyd y pla!
31—A chyfrifwyd (hyn) iddo ef yn gyfiawnder,
O genhedlaeth i genhedlaeth, yn dragywydd:—
32A llidiasant Ef wrth ddyfroedd Meribah;
Yna y bu ddrwg i Moshe o’u plegid hwynt;
33Canys gwrthnysig oeddynt yn erbyn Ei yspryd Ef,
A llefarodd yntau yn ehud â’i wefusau;
34Ni ddinystriasant y bobloedd,
Am y rhai y dywedasai Iehofah wrthynt,
35Eithr ymgyweithasant â’r cenhedloedd,
A dysgasant eu gweithredoedd hwynt,
36A gwasanaethasant eu delwau hwynt,
—Y rhai a aethant yn fagl iddynt,—
37Ac aberthasant eu meibion a’u merched i gythreuliaid,
38A thywalltasant waed gwirion, gwaed eu meibion a’u merched,
—Y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan,
Fel yr halogwyd y tir gan alanas,
39Ac yr aflanhâwyd hwynt gan eu preithiau,
Ac y putteiniasant yn eu gweithredoedd;
40Yna y llosgodd llid Iehofah yn erbyn Ei bobl.
Ac y ffieiddiodd Efe Ei etifeddiaeth,
41Ac y rhoddes hwynt yn llaw’r cenhedloedd,
Fel y llywodraethodd eu caseion arnynt,
42A’u gorthrymmu a wnaeth eu gelynion,
Ac y darostyngwyd hwynt dan eu dwylaw hwy!
43Troion lawer y gwaredodd Efe hwynt,
Ond hwythau a wrthryfelasant yn ol eu cynghor eu hun,
Ac a nychasant o herwydd eu hanwiredd!
44Ac edrychodd Efe, pan oedd ing arnynt,
Wrth glywed o Hono eu llefain,
45A chofiodd Ei gyfammod erddynt,
A thosturiodd yn ol amlder Ei raslondeb,
46A gwnaeth iddynt gael trugaredd
Gan yr holl rai a’u caethiwai!
47Achub ni, O Iehofah, ein Duw,
A chynnull ni o blith y cenhedloedd,
Er mwyn dïolch (o honom) i’th enw sanctaidd,
Er mwyn ymffrostio (o honom) yn Dy foliant!
48Bendigedig (fo) Iehofah, Duw Israel,
O dragywyddoldeb, ac hyd dragywyddoldeb;
A dyweded yr holl bobl “Amen!”
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.