S. Marc 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wedi darfod y Sabbath, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Shalome, a brynasant ber-aroglau, fel, wedi dyfod o honynt, yr enneinient Ef.

2Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, daethant at y bedd, ar ol codiad yr haul;

3a dywedasant wrth eu gilydd, Pwy a dreigla ymaith i ni y maen oddiwrth ddrws y bedd?

4(Ac wedi edrych i fynu gwelsant y treiglasid y maen ymaith,) canys yr oedd efe yn fawr iawn.

5Ac wedi myned i mewn i’r bedd, gwelsant ŵr ieuangc yn eistedd o’r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg wen; a synnasant yn ddirfawr.

6Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ddirfawr-synnwch: yr Iesu yr ydych yn Ei geisio, y Natsaread, yr Hwn a groes-hoeliwyd. Cyfododd; nid yw Efe yma: wele y lle y dodasant Ef.

7Eithr ewch ymaith; dywedwch wrth Ei ddisgyblion, ac wrth Petr, Myned o’ch blaen chwi i Galilea y mae; yno Ef a welwch, fel y dywedodd wrthych.

8Ac wedi myned allan, ffoisant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt grynfa a syndod; ac wrth neb ni ddywedasant ddim, canys dychrynwyd hwynt.

9Ac wedi adgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai allan saith o gythreuliaid;

10a hithau, wedi myned, a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag Ef, ac oeddynt yn galaru ac yn gwylofain.

11A hwythau, wedi clywed Ei fod yn fyw ac y gwelwyd ganddi, a anghoeliasant.

12Ac wedi y pethau hyn, i ddau o honynt, yn ymdeithio, yr amlygwyd Ef mewn gwedd arall, wrth fyned o honynt i’r wlad.

13A hwy, wedi myned ymaith, a fynegasant i’r lleill, ac iddynt hwy ni chredent.

14A chwedi’n, i’r un ar ddeg eu hunain yn eu lled-orwedd wrth y ford yr amlygwyd Ef, a dannododd iddynt eu hanghrediniaeth a’u calon-galedwch, gan mai i’r rhai a’i gwelsent Ef wedi adgyfodi, na roisent gred;

15a dywedodd wrthynt, Wedi myned o honoch i’r holl fyd, pregethwch yr Efengyl i’r holl greadigaeth.

16Yr hwn a gredo ac a fedyddiwyd fydd gadwedig; ac yr hwn a anghredo a gondemnir.

17Ac i’r rhai a gredant, yr arwyddion hyn a’u canlynant: Yn Fy enw y bwriant allan gythreuliaid;

18a thafodau newyddion y llefarant; seirph a godant hwy; ac os dim marwol a yfant, ni wna iddynt ddim niweid; ar gleifion eu dwylaw a roddant, ac iacheir hwynt.

19Yr Arglwydd Iesu, gan hyny, ar ol llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i’r nef, ac eisteddodd ar ddeheulaw Duw.

20A hwythau, wedi myned allan, a bregethasant ym mhob man, yr Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau y Gair trwy’r arwyddion a oedd yn canlyn. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help