1 y gair yr hwn a welodd eshaiah mab amots am iwdah a ierwshalem.
2Bydd yn y 2dyddiau 1 diweddaf:
Sefydledig fydd mynydd tŷ Iehofah ym mhen y mynyddoedd
A dyrchafedig goruwch y bryniau,
A dylifa atto y cenhedloedd oll:
3Ac aiff pobloedd lawer, a dywedant,
Deuwch ac esgynwn i fynydd Iehofah,
I dŷ Duw Iacob,
Ac Efe a’n dysg ni yn Ei ffyrdd,
A ni a rodiwn yn Ei lwybrau Ef,
Canys o Tsïon yr aiff y gyfraith allan,
A gair Iehofah o Ierwshalem.
4Ac Efe a farna rhwng y cenhedloedd,
Ac a argyhoedda bobloedd lawer,
A hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau,
A’u gwaywffyn yn grymmanau;
Ni chyfyd cenedl yn erbyn cenedl gleddyf,
Ac ni ddysgant mwyach ryfel.
5Tŷ Iacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni Iehofah.
6Yn ddïau, ymadewaist â’th bobl, tŷ Iacob,
Am eu bod wedi eu llenwi o’r dwyrain,
A’u (bod) yn swynwŷr megis y Philistiaid,
A chyda meibion dïeithriaid y tarawsant law.
7A llanwyd ei dir o arian ac aur,
Ac nid (oes) diben ar ei drysorau:
A llanwyd ei dir o feirch,
Ac nid (oes) diben ar ei gerbydau;
8A llanwyd ei dir o eulunod,
I waith ei ddwylaw yr ymostyngant,
I’r hyn a wnaeth ei fysedd.
9Gan hynny gostyngir y gwreng ac iselir y bonheddig,
Ac ni faddeui iddynt.
10Dos i’r graig ac ymgûdd yn y llwch,
Rhag wyneb dychryniad Iehofah, a rhag gogoniant Ei fawredd Ef.
11Trem uchel dyn a iselir,
A gostyngir uchder dynionach,
A dyrchefir Iehofah yn unig yn y dydd hwnnw.
12Canys (y mae) dydd i Iehofah y lluoedd yn erbyn pob balch ac uchel,
Ac yn erbyn pob dyrchafedig, ac efe a iselir:
13Ac yn erbyn holl gedrwŷdd Lebanon, yr uchelion a’r dyrchafedigion,
Ac yn erbyn holl dderw Bashan;
14Ac yn erbyn yr holl fynyddoedd, yr uchelion;
Ac yn erbyn yr holl fryniau, y dyrchafedigion,
15Ac yn erbyn pob tŵr uchel,
Ac yn erbyn pob magwyr gadarn,
16Ac yn erbyn holl longau Tarshish,
Ac yn erbyn pob manylwaith dymunol;
17A gostyngir mawredd dyn,
Ac iselir uchder dynionach,
A dyrchefir Iehofah yn unig yn y dydd hwnnw.
18A’r eulunod yn hollol a ddiflannant,
19A hwy a ânt i ogofau ’r creigiau, ac i dyllau ’r llwch,
Rhag wyneb dychryniad Iehofah, a rhag gogoniant Ei fawredd Ef,
Pan gyfodo Efe i frawychu ’r ddaear.
20Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eulunod arian
A’i eulunod aur, y rhai a wnaethant i’w haddoli,
I’r wâdd ac i’r ystlummod,
21I fyned i agennau ’r creigiau ac i holltau ’r clogwyni,
Rhag wyneb dychryniad Iehofah, a rhag gogoniant Ei fawredd Ef,
Pan gyfodo Efe i frawychu’r ddaear.
22Peidiwch â dyn yr hwn (sydd) âg anadl yn ei ffroenau;
Canys ym mha beth y gwneir cyfrif o hono ef?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.