I. Timotheus 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ond yr Yspryd a ddywaid yn bendant, yn yr amseroedd diweddarach y saif rhai ymaith oddiwrth y ffydd, gan ddal ar ysprydion cyfeiliornus ac athrawiaethau cythreuliaid,

2trwy ragrith celwyddwyr a losg-nodwyd o ran eu cydwybod, yn gwahardd priodi,

3ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd; y rhai Duw a’u creodd i’w derbyn gyda rhoddi diolch gan y ffyddloniaid, a’r rhai a wyddant y gwirionedd.

4Canys pob peth creedig gan Dduw sydd dda, ac nid oes dim i’w daflu ymaith, pan gyda rhoddi diolch y derbynir,

5canys cael ei sancteiddio y mae trwy air Duw a gweddi.

6Gan ddwyn y pethau hyn ar gof i’r brodyr, gweinidog da fyddi i Grist Iesu, gan dy fagu dy hun yngeiriau’r ffydd a’r athrawiaeth dda yr hon a ddilynaist.

7Ond y chwedlau halogedig ac hen-wreigaidd gwrthod: ond ymarfer i dduwioldeb;

8canys ymarfer corphorol i ychydig y mae’n fuddiol; ond duwioldeb, i bob peth buddiol yw, ag addewid ganddo o’r bywyd y sydd yn awr ac o’r hwn ar fedr dyfod.

9Credadwy yw’r ymadrodd, a phob derbyniad a haedda efe.

10Canys er mwyn hyn y llafuriwn ac yr ymdrechwn, canys gobeithio yr ydym yn y Duw byw, yr Hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y rhai sy’n credu.

11Gorchymyn y pethau hyn, a dysg hwynt.

12Na fydded i neb ddirmygu dy ieuengctid di, eithr bydd yn ensiampl i’r rhai sy’n credu, mewn gair, mewn ymddygiad, mewn cariad, mewn ffydd, mewn purdeb.

13Hyd oni ddelwyf, dal ar ddarllain, ar gynghori, ar athrawiaethu.

14Nac esgeulusa y dawn sydd ynot ti, yr hwn a roddwyd i ti trwy brophwydoliaeth ynghydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth.

15Yn y pethau hyn bydd ddyfal; yn y pethau hyn parha, fel y bo dy gynnydd di yn amlwg i bawb.

16Gwylia arnat dy hun, ac ar dy ddysgad: aros ynddynt; canys os hyn a wnai, ti dy hun a achubi, ac y rhai sydd yn dy glywed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help