S. Ioan 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Y pethau hyn a leferais wrthych fel na’ch tramgwydder.

2Allan o’r sunagogau y rhoddant chwi; eithr dyfod y mae’r awr y bydd i bob un a’ch lladdo, dybio mai gwasanaeth a offrwm efe i Dduw.

3A’r pethau hyn a wnant, gan nad adwaenant y Tad na Myfi.

4Eithr y pethau hyn a leferais wrthych, fel pan ddel eu hawr, y cofioch hwynt, y dywedais I wrthych. Y pethau hyn ni ddywedais wrthych o’r dechreuad, gan mai gyda chwi yr oeddwn.

5Ond yn awr cilio yr wyf at yr Hwn a’m danfonodd, ac nid oes neb o honoch yn gofyn i Mi, I ba le y cili?

6Eithr am mai’r pethau hyn a leferais wrthych, tristwch a lanwodd eich calon.

7Eithr Myfi a ddywedais y gwirionedd i chwi. Buddiol yw i chwi Fy myned I ymaith, canys onid af ymaith, y Diddanydd ni ddaw attoch; ond os af, danfonaf Ef attoch.

8Ac wedi dyfod, Efe a argyhoedda’r byd ynghylch pechod, ac ynghylch cyfiawnder,

9ac ynghylch barn: ynghylch pechod, am nad ydynt yn credu Ynof;

10ac ynghylch cyfiawnder, gan mai at y Tad yr wyf yn cilio,

11ac mwyach na’m gwelwch; ac ynghylch barn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.

12Llawer peth etto sydd Genyf i’w llefaru wrthych, eithr ni ellwch eu dwyn yn awr;

13ond pan ddel Efe, Yspryd y gwirionedd, tywys Efe chwi i’r holl wirionedd; canys ni lefara o Hono Ei hun, eithr cynnifer bethau ag a glywo a lefara Efe; a’r pethau y sy’n dyfod, a fynega Efe i chwi.

14Efe a’m gogonedda I, canys o’r eiddof y derbyn, ac y mynega i chwi.

15Yr holl bethau, cynnifer ag sydd gan y Tad, eiddof Fi ydynt; o achos hyn y dywedais, “O’r eiddof Fi y derbyn, ac y mynega i chwi.”

16Ychydig ennyd ac mwyach ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig a gwelwch Fi.

17Dywedodd, gan hyny, rai o’i ddisgyblion wrth eu gilydd, Pa beth yw hyn a ddywaid Efe wrthym, “Ychydig ennyd ac ni’m gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd a gwelwch Fi,” a “Cilio yr wyf at y Tad?”

18Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn a ddywaid Efe, “Ychydig ennyd?” Nis gwyddom pa beth a ddywaid Efe.

19Gwybu yr Iesu yr ewyllysient ofyn Iddo, a dywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ymofynwch â’ch gilydd, am ddywedyd o Honof, “Ychydig ennyd ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd a gwelwch Fi:”

20Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Gwylo a galaru a wnewch chwi, ond y byd a lawenycha; chwi a dristheir, ond eich tristwch a droir yn llawenydd.

21Gwraig wrth esgor, sydd a thristwch arni oherwydd dyfod ei hawr; ond wedi geni y plentyn, ni chofia mwyach ei gofid o achos ei llawenydd am y ganwyd dyn i’r byd.

22A chwithau, gan hyny, yn awr yn wir tristwch sydd genych, ond eilchwyl y gwelaf chwi, a llawenycha eich calon, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.

23A’r dydd hwnw Genyf Fi ni ofynwch ddim. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych,

24Os gofynwch ddim gan y Tad, rhydd Efe i chwi yn Fy enw. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn Fy enw: gofynwch, a derbyniwch, fel y bo eich llawenydd yn gyflawnedig.

25Y pethau hyn, mewn damhegion y’u lleferais wrthych. Dyfod y mae’r awr pan nid mewn damhegion y llefaraf mwyach wrthych, eithr yn eglur y mynegaf am y Tad wrthych.

26Y dydd hwnw yn Fy enw y gofynwch; ac nid wyf yn dywedyd wrthych y gofynaf Fi gan y Tad am danoch,

27canys y Tad Ei hun a’ch câr chwi am i chwi Fy ngharu I a chredu mai oddiwrth y Tad y daethum I allan.

28Daethum allan oddiwrth y Tad, a daethum i’r byd. Trachefn gadael y byd yr wyf, ac yn myned at y Tad.

29Dywedodd Ei ddisgyblion, Wele, yn awr, yn eglur y lleferi, ac nid dammeg o gwbl a ddywedi.

30Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes Genyt raid i neb ofyn i Ti; wrth hyn y credwn mai oddiwrth Dduw y daethost allan.

31Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Ai credu yr ydych yn awr?

32Wele, dyfod y mae’r awr, a daeth, y gwasgerir chwi, bob un, at yr eiddo, ac Myfi a adewch yn unig. Ac nid wyf yn unig, canys y Tad sydd gyda Mi.

33Y pethau hyn a leferais wrthych, fel Ynof y bo tangnefedd genych: yn y byd, gorthrymder a gewch; eithr byddwch hyderus; Myfi a orchfygais y byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help