1Gan hyny, os cyd-gyfodwyd chwi gyda Christ, y pethau sydd uchod ceisiwch, lle y mae Crist ar ddeheulaw Duw yn Ei eistedd;
2y pethau sydd uchod syniwch, nid y pethau ar y ddaear;
3canys wedi marw yr ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.
4Pan fydd i Grist Ei amlygu, ein bywyd ni, yna chwychwi hefyd a amlygir ynghydag Ef mewn gogoniant.
5Marwhewch, gan hyny, eich aelodau y sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, gwŷn, dryg-chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulun-addoliaeth,
6o herwydd y rhai dyfod y mae digofaint Duw ar feibion anufudd-dod;
7yn y rhai yr oeddych chwithau hefyd yn rhodio gynt, pan oeddych yn byw ynddynt;
8ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd ymaith yr holl bethau hyn, digter, llid, drygioni, cabledd,
9ymadrodd cywilyddus, allan o’ch genau: na chelwyddwch wrth eich gilydd, wedi diosg o honoch yr hen ddyn,
10ynghyda’i weithredoedd, ac wedi rhoddi am danoch y newydd y sy’n cael ei adnewyddu i wybodaeth yn ol llun yr Hwn a’i creodd ef;
11yn yr Hwn nid oes Groegwr ac Iwddew, amdorriad a diamdorriad, Barbariad a Scuthiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, y mae Crist.
12Rhoddwch am danoch, gan hyny, megis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, ymysgaroedd trugaredd, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir-ymaros,
13gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a chan faddeu i’ch gilydd, os yw neb a chanddo gwyn yn erbyn neb; fel y bu i’r Arglwydd faddeu i chwi, felly maddeuwch chwithau hefyd.
14A thros yr holl rai hyn rhoddwch am danoch gariad, yr hwn yw cyd-gyssylltiad perffeithrwydd.
15A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd mewn un corph; a byddwch ddiolchgar.
16Bydded i air Crist drigo ynoch yn oludog; ymhob doethineb yn dysgu a chynghori eich gilydd â psalmau, hymnau, ac odlau ysprydol; trwy ras yn canu yn eich calonnau i Dduw.
17A phob peth o’r a wneloch, ar air neu ar weithred, bydded yr oll yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddioch i Dduw Dad Trwyddo Ef.
18Y gwragedd ymostyngwch i’ch gwŷr, fel y gwedda yn yr Arglwydd.
19Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon yn eu herbyn.
20Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd foddlonol yn yr Arglwydd.
21Y tadau, na chyffrowch eich plant fel na ddigalonnont.
22Y gweision ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ol y cnawd; nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, gan ofni’r Arglwydd:
23pa beth bynnag a wneloch, o’r galon gweithredwch, megis i’r Arglwydd ac nid i ddynion;
24gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth; yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu;
25canys yr hwn sy’n gwneuthur cam a gaiff yr hyn a wnaeth efe ar gam, ac nid oes derbyn gwyneb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.