1I’r blaengeiniad. Ar (don y gân) “Colommen fud y pellenigwyr”.
Eiddo Dafydd. Ysgrifen, pan ddaliodd y Philishtiaid ef yn Gath.
2Bydd radlawn wrthyf, O Dduw, canys dyhëu am danaf y mae dyn,
Beunydd, gan ymladd, y’m gorthrymma;
3Dyhëu am danaf y mae fy ngelynion beunydd,
Canys llawer (sy)’n rhyfela i’m herbyn yn drahäus.
4Y dydd yr ofnwyf,
Myfi ynot Ti a ymddiriedaf;
5Yn Nuw y clodforaf Ei air,
Yn Nuw yr ymddiriedaf heb ofn;
—Pa beth a wna cnawd i mi?
6Beunydd i’m matterion y perant flinder.
Yn fy erbyn (y mae) eu holl feddyliau, er drwg:
7Ymgasglant, fy marcio y mae y rhai hyn, fy olion a wyliant hwy,
Canys disgwyliant am fy enaid:
8 Trwy ddrygioni (y mae) diangc ganddynt hwy,
Mewn llid tafl Di’r bobloedd i lawr, O Dduw!
9Fy nghrwydriadau a gyfrifaist Ti Dy hun;
Dyro fy nagrau yn Dy gostrel;
Onid (ydynt) yn Dy lyfr Di?—
10Yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol yn y dydd y llefwyf (Arnat):
Hyn a wn, am (fod) Duw gyda mi.
11Yn Nuw y clodforaf (Ei) air!
Yn Nuw y clodforaf (Ei) air!
12Yn Nuw yr ymddiriedaf heb ofn:
—Pa beth a wna cnawd i mi?
13Arnaf fi, O Dduw, (y mae) Dy addunedau.
Talaf ddïolch i Ti,
14Canys gwaredaist fy enaid rhag angau,
—Oni (waredaist) fy nhraed rhag syrthio?—
Fel y rhodiwn ger bron Duw
Yngoleuni bywyd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.