1Er mwyn Tsïon ni thawaf,
Ac er mwyn Ierwshalem ni byddaf lonydd,
Hŷd onid elo 『2ei chyfiawnder』 hi allan 『1fel disgleirdeb,』
Ac y bo ei hiachawdwriaeth hi, fel lamp, yn llosgi.
2Yna y gwêl y cenhedloedd dy gyfiawnder,
A’r holl frenhinoedd dy ogoniant;
A gelwir arnat enw newydd,
Yr hwn a fydd genau Iehofah yn ei enwi.
3A thi a fyddi yn goron brydferthwch yn llaw Iehofah,
Ac yn dalaith frenhinol yn nghledr llaw dy Dduw.
4Ni ddywedir wrthyt mwy “Gadawedig;”
Ac wrth dy wlad ni ddywedir mwy, “Anghyfannedd;”
Eithr ti a elwir “Fy-hyfrydwch-ynddi,”
A’th wlad “Gwriawg,”
Canys ymhyfrydodd Iehofah ynot ti,
A’th wlad a berchen wr.
5Canys fel y gwreica gwr ieuangc forwyn,
Felly y gwreica dy feibion dydi;
Ac fel y llawenycha prïod-fab am brïod-ferch,
Y llawenycha 『2dy Dduw』 『1am danat ti.』
6Ar dy furiau di, Ierwshalem, y gosodais geidwaid yr holl ddydd,
A’r holl nos, beunydd, ni thawant.
Coffhäwŷr Iehofah, na bydded distawrwydd gennych,
7Ac na adêwch ddistawrwydd iddo Ef,
Hyd oni sicrhâo, ac hyd oni osodo Efe
Ierwshalem yn foliant ar y ddaear.
8Tyngodd Iehofah i’w ddeheulaw ac i fraich Ei nerth,
Ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion,
Ac nid ŷf meibion y dieithr mwy dy win newydd, yr hwn y llafuriaist am dano;
9Eithr y rhai a’i casglant a’i bwyttânt, ac a foliannant Iehofah,
A’r rhai a’i cynnullant a’i hyfant yn nghynteddoedd Fy sancteiddrwydd.
10Ewch drwodd, ewch drwodd yn y pyrth, parottôwch ffordd y bobl,
Sernwch, sernwch sarn, digarregwch hi o feini;
Dyrchefwch Iumman i’r bobloedd.
11Wele Iehofah a gyhoeddodd hŷd eithaf y ddaear
“Dywedwch wrth ferch Tsïon, Wele dy Iachawdwr sy’n dyfod,
Wele ei wobr gydag ef, a ffrwyth ei lafur o’i flaen ef.”
12A geilw (dynion) hwynt “Y Bobl Sanctaidd, Adbrynedigion Iehofah”
A thydi a elwir “Y Geisiedig, y Ddinas nid gadawedig.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.