S. Luc 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A dywedodd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ddyn goludog, yr hwn oedd a chanddo ddisdain: a hwn a gyhuddwyd wrtho megis yn gwasgaru ei feddiannau ef.

2Ac wedi ei alw ef, dywedodd wrtho, Pa beth yw hyn a glywaf am danat? Dyro gyfrif o’th ddisdeiniaeth, canys ni elli fod mwy yn ddisdain.

3Ac ynddo ei hun y dywedodd y distain, Pa beth a wnaf gan fod fy arglwydd yn dwyn y ddisdeiniaeth oddi arnaf? Cloddio ni allaf; cardotta sydd gywilyddus genyf.

4Gwn pa beth a wnaf, fel pan y’m symmudir o’r ddisdeiniaeth, y derbyniont fi i’w tai.

5Ac wedi galw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, dywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew.

6Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, a chan eistedd, ar frys ysgrifena, “Deg a deugain.”

7Gwedi’n wrth un arall y dywedodd, A thydi, pa faint sydd arnat? Ac efe a ddywedodd, Can cor o wenith. Dywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, ac ysgrifena, “Pedwar ugain.”

8A chanmolodd yr arglwydd y distain anghyfiawn mai yn gall y gwnelsai; canys meibion y byd hwn ydynt gallach na meibion y goleuni, am eu cenhedlaeth.

9Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gwnewch i’ch hunain gyfeillion o’r mammon anghyfiawn, fel pan ddiffygio, y derbyniont chwi i’r tragywyddol bebyll.

10Y ffyddlawn yn y lleiaf, mewn llawer hefyd ffyddlawn yw; a’r hwn yn y lleiaf yn anghyfiawn, mewn llawer hefyd anghyfiawn yw.

11Os, gan hyny, yn y mammon anghyfiawn nad oeddych ffyddlawn, pwy a ymddiried i chwi y gwir olud?

12Ac os yn yr eiddo arall nad oeddych ffyddlawn, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?

13Nid oes gwas a ddichon wasanaethu dau arglwydd, canys un ai y naill a gasa ac y llall a gâr efe, neu wrth y naill yr ymlyn ac y llall a ddirmyga efe; ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.

14A chlywed y pethau hyn oll yr oedd y Pharisheaid, a hwy yn ariangar, a gwatwarasant Ef.

15A dywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai yn cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion, ond Duw a ŵyr eich calonnau; canys yr hyn y sydd ymhlith dynion yn uchel, ffiaidd yw ger bron Duw.

16Y Gyfraith a’r Prophwydi, hyd Ioan yr oeddynt; er y pryd hwnw, teyrnas Dduw a efengylir, ac i mewn iddi hi y mae pob dyn yn ymwthio;

17ac haws yw myned o’r nef a’r ddaear heibio nag i un tipyn o’r Gyfraith syrthio.

18Pob un y sy’n gollwng ymaith ei wraig, ac yn priodi un arall, godinebu y mae; a’r hwn a briodo un a ollyngwyd ymaith oddi wrth ŵr, godinebu y mae.

19Yr oedd rhyw ddyn goludog, ac ymwisgai â phorphor a lliain main, yn ymhyfrydu beunydd yn ysplenydd.

20Ac rhyw ddyn tlawd, a’i enw Lazarus, a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,

21ac yn chwennychu cael ei borthi â’r pethau a syrthient oddi ar fwrdd y dyn goludog; ond hyd yn oed y cwn a ddaethant ac a lyfasant ei gornwydydd ef.

22A bu i’r dyn tlawd farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham: a bu farw hefyd y goludog, a claddwyd ef.

23Ac yn Hades gan godi ei lygaid, ac yntau mewn arteithiau, gwelai Abraham o hirbell a Lazarus yn ei fynwes.

24Ac efe, gan lefain, a ddywedodd, O Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod, canys poenir fi yn y fflam hon.

25A dywedodd Abraham, Fy mhlentyn, cofia y derbyniaist dy bethau da yn dy fywyd; a Lazarus, yr un ffunud, y pethau drwg; ond yn awr y diddenir ef, a thydi a boenir.

26Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi, gagendor mawr a sicrhawyd, fel y bo i’r rhai a ewyllysiant dramwy oddi yma attoch, fod heb y gallu; ac oddi yna attom ni na chroesont.

27A dywedodd, Gofynaf, gan hyny, i ti ei ddanfon ef i dŷ fy nhad,

28canys y mae i mi bump o frodyr, fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwy hefyd ddyfod i’r lle hwn o artaith.

29A dywedodd Abraham, y mae ganddynt Mosheh a’r Prophwydi, gwrandawant arnynt hwy.

30Ac efe a ddywedodd, Nage, y tad Abraham, eithr os rhyw un oddi wrth y meirw a aiff attynt, edifarhant.

31A dywedodd Abraham wrtho, Os ar Mosheh a’r Prophwydi na wrandawant, hyd yn oed ped o feirw y cyfodai rhyw un ni pherswadir mo honynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help