1Yr hwn sy’n trigo yn amgeledd y Goruchaf,
Ynghysgod yr Hollalluog yr erys efe!
2Dywedais am Iehofah, “Fy noddfa a’m hamddiffynfa,
Fy Nuw, ymddiriedaf ynddo Ef:”
3 Canys Efe a’th achub o fagl yr heliwr,
(Ac) o’r haint dinystriol;
4A’i asgell y gorchuddia Efe drosot ti,
A than Ei adennydd yr ymnoddi,
Tarian ac astalch (yw) Ei ffyddlondeb Ef;
5Nid ofni rhag y dychryn liw nos,
Rhag y saeth a ehedo ’r dydd,
6Rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch,
Rhag y cornwyd a anrheithio ganol dydd,
7Fe syrth wrth dy ystlys fil,
A deng mil wrth dy ddeheulaw,
Attat ti ni nesâ efe,
8Yn unig â’th lygaid yr edrychi (arno),
A thâl yr annuwiolion a weli.
9“Canys Tydi, O Iehofah, (yw) fy noddfa!”
Y Goruchaf a osodaist yn breswylfa i ti;
10 Ni ddigwydd i ti ddrwg,
A phla ni neshâ at dy babell,
11Canys i’w angylion y gorchymyn Efe am danat ti
I’th gadw yn dy holl ffyrdd,
12—Ar eu dwylaw y’th ddygant
Rhag taro wrth garreg gan dy droed; —
13Ar y llew a’r asp y sethri,
Methri y llew ieuangc a’r ddraig.
14“O herwydd mai wrthyf Fi y glynodd, diangc a roddaf iddo,
Mewn uchelfa y dodaf ef o herwydd adnabod o hono Fy enw,
Geilw Arnaf Fi—a gwrandawaf arno;
15Gydag ef Myfi (fydd) mewn cyfyngder,
Rhyddâf ef, a gogoneddaf ef;
16A hir ddyddiau y diwallaf ef,
A pheraf iddo weled Fy iachawdwriaeth.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.