1A chan atteb, yr Iesu a lefarodd etto wrthynt mewn damhegion,
2gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a wnaeth briodaswledd i’w fab;
3ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas, ac nid ewyllysient ddyfod.
4Trachefn y danfonodd efe weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, fy nghiniaw a barottoais; fy ychen a’m pasgedigion sydd wedi eu lladd, a phob peth yn barod: deuwch i’r briodaswledd.
5A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith; un i’w faes ei hun, ac arall i’w fasnach;
6a’r lleill, wedi dala ei weision, a’u sarasant ac a’u lladdasant.
7A’r brenhin a lidiodd; ac wedi danfon ei luoedd, dinystriodd y lleiddiaid hyny, ac eu dinas a losgodd efe.
8Yna y dywedodd wrth ei weision, Y briodaswledd yn wir sydd barod; ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.
9Ewch, gan hyny, i’r croes-ffyrdd; a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch hwynt i’r briodaswledd.
10Ac wedi myned allan o’r gweision hyny i’r ffyrdd, casglasant ynghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd y briodaswledd o rai yn lled-orwedd wrth y ford.
11Ac wedi dyfod i mewn o’r brenhin i weled y rhai yn eu lled-orwedd,
12gwelodd yno ddyn heb ei wisgo â gwisg priodas; a dywedodd wrtho, Cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma heb fod ag am danat wisg priodas? ac yntau a aeth yn fud.
13Yna y brenhin a ddywedodd wrth y gweinidogion, Wedi rhwymo ei draed ef a’i ddwylaw, teflwch ef allan i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd:
14canys llawer yw’r galwedigion, ond ychydig y rhai a ddewiswyd.
15Yna wedi myned o’r Pharisheaid, cynghor a gymmerasant, pa fodd y maglent Ef mewn ymadrodd;
16a danfonasant Atto eu disgyblion ynghyda’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai gwir wyt, ac mai crefydd Dduw a ddysgi mewn gwirionedd, ac na waeth Genyt beth fo undyn; canys nid wyt yn edrych ar wyneb dynion.
17Dywaid, gan hyny, wrthym pa beth yw Dy farn Di: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nad yw?
18A chan wybod o’r Iesu eu drygioni, dywedodd, Paham y’m temtiwch, O ragrithwyr?
19Dangoswch i mi fath y deyrnged.
20A hwy a ddygasant Atto ddenar. A dywedodd wrthynt, Delw pwy yw hon, ac argraph pwy?
21Dywedasant Wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Talwch, gan hyny, bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw.
22Ac wedi clywed o honynt, rhyfeddu a wnaethant; a chan Ei adael Ef, aethant ymaith.
23Y dydd hwnw daeth Atto Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad,
24a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ddywedodd, Os bydd i neb farw heb iddo blant, gwnaed ei frawd ran cyfathrachwr i’w wraig ef, a chyfoded had i’w frawd.
25Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr; a’r cyntaf wedi priodi a fu farw, ac, heb fod ganddo had, adawodd ei wraig i’w frawd.
26Felly hefyd yr ail, a’r trydydd, hyd y saith.
27Ac ar ol y cwbl bu farw’r wraig.
28Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i bwy o’r saith y bydd hi yn wraig, canys yr oll a’i cawsant.
29A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Cyfeiliorni yr ydych, gan fod heb wybod yr Ysgrythyrau na gallu Duw;
30canys yn yr adgyfodiad ni phriodant, ac ni roddir hwynt i’w priodi, eithr fel angylion yn y nef y maent.
31Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, yn dywedyd,
32“Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob”? Nid yw Duw Dduw meirwon, eithr y rhai byw.
33Ac wedi clywed o honynt, bu aruthr gan y torfeydd o herwydd Ei ddysgad.
34A’r Pharisheaid, wedi clywed y gostegasai Efe y Tsadwceaid, a gynnullwyd ynghyd;
35a gofynodd un o honynt,
36cyfreithiwr, gan Ei demtio Ef, Athraw, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y Gyfraith?
37Ac Efe a ddywedodd wrtho, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl:”
38hwn yw’r gorchymyn mawr a’r cyntaf.
39Ac yr ail sydd gyffelyb, sef hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.”
40Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl Gyfraitb yn sefyll, ac y Prophwydi hefyd.
41Ac wedi ymgynnull ynghyd o’r Pharisheaid, gofynodd yr Iesu iddynt,
42gan ddywedyd, Pa beth yw eich barn am Grist? Mab i bwy yw? Dywedasant Wrtho, Mab Dafydd.
43Dywedodd wrthynt, Pa fodd, gan hyny, y mae Dafydd yn yr Yspryd yn Ei alw Ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,
44“Dywedodd Iehofa wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar Fy neheulaw
Hyd oni osodwyf Dy elynion tan Dy draed.”
45Os, gan hyny, Dafydd a’i geilw Ef yn Arglwydd, pa fodd mai Mab iddo yw? Ac ni allai neb atteb Iddo air; ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnw allan ofyn Iddo mwyach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.