Philemon 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Paul, carcharor i Grist Iesu, a Timothëus ein brawd, at Philemon ein hanwylyd a’n cyd-weithiwr,

2ac at Apphia ein chwaer, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys y sydd yn dy dŷ:

3gras i chwi, a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.

4Diolch yr wyf i fy Nuw bob amser, gan wneuthur coffa am danat yn fy ngweddïau,

5gan glywed am dy gariad di, a’r ffydd y sydd genyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint,

6fel y bo i gymdeithas dy ffydd fyned yn effeithlawn, yngwybodaeth pob peth da y sydd ynoch, er Crist,

7canys llawenydd lawer fu genyf a diddanwch yn dy gariad, o herwydd i ymysgaroedd y saint gael eu dadebru trwot, frawd.

8O herwydd paham, er bod genyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd weddus,

9o achos cariad yn hytrach attolwg yr wyf, a mi yn gyfryw un a Paul yr henafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor i Grist Iesu;

10attolwg yr wyf i ti ynghylch fy mhlentyn yr hwn a genhedlais yn fy rhwymau,

11sef Onesimus, yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol,

12ond yn awr i ti ac i mi yn fuddiol, yr hwn a ddanfonais yn ei ol attat, ef ei hun, hyny yw, fy ymysgaroedd i;

13yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi fy hun, fel trosot y gwasanaethai fyfi yn rhwymau yr Efengyl;

14ond heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim, fel nad megis o angenrhaid y byddai dy ddaioni, eithr o wirfodd;

15canys ysgatfydd, er mwyn hyn y gwahanwyd ef oddiwrthyt am amser fel yn dragywydd y byddai efe genyt;

16dim mwyach megis caethwas, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn enwedig genyf fi, ond pa faint mwy genyt ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd?

17Os, gan hyny, fy nghymmeryd i yn gyfrannogwr yr wyt, derbyn ef fel myfi;

18ac os rhyw niweid a wnaeth efe i ti, neu ag arno ryw beth i ti,

19hyny dyro at fy nghyfrif i: myfi Paul a ysgrifenais â’m llaw fy hun; myfi a dalaf; fel na ddywedwyf wrthyt mai i mi y mae arnat am danat dy hun hefyd.

20Ië, frawd, bydded i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd;

21dadebra fy ymysgaroedd yng Nghrist. Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifenais attat, gan wybod mai mwy na’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd a wnei.

22Ac heb law hyn hefyd, parottoa i mi letty, canys gobeithio yr wyf mai trwy eich gweddiau y rhoddir fi i chwi.

23Dy annerch y mae Epaphras fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu,

24Marcus, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.

25Gras ein Harglwydd Iesu Grist fo gyda’ch yspryd chwi. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help