I. Ioan 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu, fel na phechoch: ac os bydd i neb bechu, Eiriolwr sydd genym gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn;

2ac Efe, yr iawn yw am ein pechodau; nid am yr eiddom ni yn unig, eithr hefyd am bechodau’r holl fyd.

3Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom Ef, os Ei orchymynion a gadwn.

4Yr hwn sy’n dywedyd, Adwaen Ef, a’i orchymynion na cheidw, celwyddwr yw, ac ynddo y gwirionedd nid ydyw;

5ond pwy bynnag a gadwo Ei air Ef, mewn gwirionedd ynddo ef y mae cariad Duw wedi ei berffeithio. Wrth hyn y gwyddom mai Ynddo Ef yr ydym.

6Yr hwn sy’n dywedyd mai Ynddo Ef ei fod yn aros, dyledwr yw, fel y bu Iddo Ef rodio, iddo yntau hefyd rodio felly.

7Anwylyd, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, eithr gorchymyn hen, yr hwn oedd genych o’r dechreuad: y gorchymyn hen yw’r Gair a glywsoch.

8Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ’sgrifenu attoch, yr hwn beth sydd wir Ynddo Ef ac ynoch chwi, canys y tywyllwch sy’n myned heibio, a’r gwir oleuni sydd eisoes yn tywynnu.

9Yr hwn sy’n dywedyd mai yn y goleuni y mae, ac ei frawd yn gas ganddo, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn.

10Yr hwn sy’n caru ei frawd, yn y goleuni y mae’n aros, a thramgwydd ynddo ef nid oes:

11ond yr hwn sy’n casau ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, canys y tywyllwch a ddallodd ei lygaid.

12Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, blant bychain, oblegid y maddeuwyd i chwi eich pechodau er mwyn Ei enw Ef.

13Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, oblegid gorchfygu o honoch yr un drwg. Ysgrifenais attoch chwi, blant bychain, oblegid adnabod o honoch y Tad.

14Ysgrifenais attoch chwi, dadau, oblegid adnabod o honoch yr Hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifenais attoch chwi, wŷr ieuaingc, gan mai cryfion ydych, a Gair Duw yn aros ynoch, ac y gorchfygasoch yr un drwg.

15Na cherwch y byd, na’r pethau y sydd yn y byd; os yw neb yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo;

16canys pob peth y sydd yn y byd, chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a gwag-ogoniant buchedd, nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae;

17a’r byd sy’n myned heibio, ac ei chwant; ond yr hwn sy’n gwneuthur ewyllys Duw, aros y mae yn dragywydd.

18Plant bychain, y ddiweddaf awr yw; ac fel y clywsoch fod Antigrist yn dyfod, hyd yn oed yn awr, Antigristiau lawer a wnaethpwyd; oddiwrth yr hyn y gwyddom mai’r ddiweddaf awr yw.

19O’n plith ni yr aethant allan, eithr nid oeddynt o honom; canys pe buasent o honom, arhosasent gyda ni: eithr fel yr amlygid nad ydynt oll o honom ni y bu.

20A chwi sydd ag enneiniad genych oddiwrth Y Sanctaidd un, a gwyddoch bob peth.

21Nid ysgrifenais attoch oblegid na wyddoch y Gwirionedd, eithr oblegid gwybod o honoch ef, ac oblegid nad yw neb rhyw gelwydd o’r Gwirionedd.

22Pwy yw’r celwyddwr oddieithr yr hwn sy’n gwadu nad ydyw Iesu Y Crist? Hwn yw’r Antigrist, yr hwn sy’n gwadu y Tad a’r Mab.

23Pob un y sy’n gwadu’r Mab, nid yw’r Tad chwaith ganddo: yr hwn sy’n cyffesu’r Mab, y Tad hefyd sydd ganddo.

24Chwychwi, yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, ynoch arhosed. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, chwychwi hefyd yn y Mab ac yn y Tad a arhoswch.

25A hwn yw’r addewid yr hwn y bu Iddo Ef ei addaw i ni, sef y bywyd tragywyddol.

26Y pethau hyn a ’sgrifenais attoch ynghylch y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn.

27A chwychwi yr enneiniad a dderbyniasoch Ganddo Ef, aros y mae ynoch, ac nid oes genych raid wrth ddysgu o neb chwi: eithr fel y mae Ei enneiniad Ef yn eich dysgu am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac fel y dysgodd chwi, arhoswch Ynddo Ef.

28Ac, yn awr, blant bychain, arhoswch Ynddo Ef; fel, os amlygir Ef, y bo genym hyder, ac na chywilyddier ni ger Ei fron yn Ei ddyfodiad.

29Os gwyddoch mai cyfiawn yw Efe, gwyddoch fod pob un hefyd y sy’n gwneuthur cyfiawnder, mai o Hono Ef y’i cenhedlwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help