1Ac am y gasgl y sydd i’r saint; fel yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau hefyd.
2Y dydd cyntaf o’r wythnos pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori fel y llwyddodd, rhag pan ddelwyf, yr amser hwnw, y bo’r gasgl.
3A phan ddelwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau y danfonaf hwynt i ddwyn eich caredigrwydd i Ierwshalem:
4ac os teilwng bydd o fyned o honof finnau hefyd, ynghyda mi yr ant.
5Ond deuaf attoch, pan trwy Macedonia y byddaf wedi tramwy;
6canys trwy Macedonia yr wyf yn tramwy; ac ynghyda chwi ysgatfydd yr arhosaf, neu y gauafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf;
7canys nid ewyllysiaf eich gweled chwi yn awr ar fy hynt; canys gobeithio yr wyf aros rhyw ennyd gyda chwi, os yr Arglwydd a’i caniatta.
8Ond arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost; canys drws a agorwyd i mi,
9un mawr ac effeithiol; a gwrthwynebwyr lawer sydd.
10Ond os daw Timothëus, edrychwch ar fod o hono yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel yr wyf finnau hefyd.
11Na fydded i neb, gan hyny, ei ddiystyru ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch fel y delo attaf, canys ei ddisgwyl ef yr wyf ynghyda’r brodyr.
12Ac am y brawd Apolos, llawer yr ymbiliais ag ef am ddyfod attoch gyda’r brodyr; ond yn hollol nid oedd ei ewyllys i ddyfod yn awr, ond daw pan fydd ganddo amser cyfaddas.
13Gwyliwch; sefwch yn y ffydd; ymwrolwch; ymgryfhewch;
14eich holl bethau, mewn cariad y gwneler hwynt.
15Ac attolygaf i chwi, frodyr, (gwyddoch am dŷ Stephanas ei fod yn flaen-ffrwyth Achaia, ac i weinidogaeth y saint y gosodasant eu hunain),
16y bo i chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i’r cyfryw rai, ac i bob un sydd yn cydweithio ac yn llafurio.
17A llawen wyf am ddyfodiad Stephanas a Ffortunatus ac Achaicus; canys eich diffyg chwi hwy a gyflawnasant;
18canys adlonasant fy yspryd i ac yr eiddo chwi; cydnabyddwch, gan hyny, y cyfryw rai.
19Eich annerch y mae eglwysi Asia. Eich annerch yn yr Arglwydd, yn ddirfawr, y mae Acwila a Phrisca, ynghyda’r eglwys sydd yn eu tŷ.
20Eich annerch y mae’r brodyr oll. Annerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
21Yr annerch a’m llaw i Paul.
22Os rhyw un na char yr Arglwydd, bydded anathema, Maran atha.
23Gras yr Arglwydd Iesu Grist fo gyda chwi.
24Fy serch fo gyda phawb o honoch yng Nghrist Iesu. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.