Eshaiah 32 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXII.

1Wele, mewn cyfiawnder y teyrnasa brenhin,

A thywysogion mewn barn a lywodraethant,

2A bydd gwr megis yn ymguddfa (rhag) y gwỳnt, ac yn lloches (rhag) y dymmestl,

Megis afonydd dyfroedd mewn sychdir,

Megis cysgod craig fawr mewn tir sy’n dyddfu.

3Arno ef yr edrych llygaid y rhai sy’n gweled,

A chlustiau y rhai sy’n clywed a wrandawant.

4A chalon y rhai byrbwyll a ddeall wybodaeth,

A thafod y rhai bloesg a brysura i lefaru ’n eglur.

5Ni elwir mwy y coegddyn yn odidog,

Ac am y cybydd ni ddywedir, Hael (yw).

6Canys y coegddyn, coegni a draetha efe,

A’i galon a lunia anwiredd,

Gan ymarfer â rhagrith, a thraethu yn erbyn Iehofah gamwedd,

Gan ddyhyspyddu enaid y newynog;

A diod y sychedig a wna efe i ballu.

7A’r cybydd, ei arfau ef (sydd) ddrygionus,

Efe dichellion a ddychymmyg

I faglu ’r trueiniaid trwy ymadroddion gau,

Ac i ddiddymmu geiriau ’r anghenus mewn barn.

8Ond y godidog, godidowgrwydd a ddychymmyg efe,

Ac efe ar odidowgrwydd a sirchêir.

9Chwi wragedd segurllyd, cyfodwch, clywch fy llais,

Chwi ferched dïofal, gwrandeŵch fy ymadrodd.

10Dyddiau a blynyddoedd y’ch aflonyddir, chwi ddïofal rai,

Canys pallodd y cynhauaf gwin, cynnull ni ddaw.

11Ofnwch chwi rai segurllyd, aflonydded chwi rai dïofal,

Gan ymddïosg ac ymnoethi, a gwregysu (â sachlïain)

12Am eich llwynau, am eich bronnau.

Galarwch am y maes dymunawl, am y winwỳdden ffrwythlawn.

13Ar dir Fy mhobl drain a mieri a gyfodant,

Ië ar bob tŷ llawenydd, (ar) y ddinas hyfryd;

14Canys y llŷs a wrthodwyd, y liosog ddinas a adawyd,

Ophel a’r wylfa fyddant yn ogofeydd yn dragywydd,

Yn hyfrydwch asynod gwỳlltion, yn borfa diadellau,

15Hyd oni thywallter arnom yr yspryd o’r ucholder,

A bod yr anialwch yn faes ffrwythlawn,

A’r maes ffrwythlawn yn goedwig a gyfrifer.

16Ac fe drig yn yr anialwch farn,

A chyfiawnder yn y maes ffrwythlawn a erys.

17A 2gwaith 3cyfiawnder 1fydd heddwch,

A gweithred cyfiawnder lonyddwch a dïogelwch yn dragywydd.

18Ac fe drig Fy mhobl mewn preswylfa heddychlon,

Ac mewn anneddau dïogel,

Ac mewn gorphwysfaoedd llonydd.

19Ond cenllysg (a fydd) yn disgyn ar y goedwig,

Ac mewn lle isel isel-adeiledir y ddinas.

20Gwỳn eich byd wrth hau ger llaw pob dyfroedd,

Wrth ddanfon allan draed yr ŷch a’r asyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help