I. Corinthiaid 11 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Efelychwyr byddwch i mi, fel yr wyf finnau hefyd i Grist.

2Ac eich canmol yr wyf, gan mai ymhob peth fy nghofio yr ydych; ac, fel y traddodais i chwi, y traddodiadau eu cadw yr ydych.

3Ond ewyllysiaf i chwi wybod mai i bob dyn, y pen yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw.

4Pob dyn yn gweddïo, neu yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben,

5cywilyddio ei ben y mae; a phob gwraig yn gweddïo, neu yn prophwydo, heb orchudd am ei phen, cywilyddio ei phen y mae, canys yr un, a’r un peth, yw a phe ei heilliesid hi.

6Canys os heb orchudd y mae gwraig, cneifier hi hefyd; ond os cywilyddus i wraig ei chneifio neu ei heillio, bydded a gorchudd am dani.

7Canys dyn yn wir ni ddylai fod a pheth am ei ben, gan mai delw a gogoniant Duw yw; ond y wraig, gogoniant y dyn yw;

8canys nid yw dyn o wraig, eithr y wraig o ddyn;

9ac ni chrewyd dyn er mwyn y wraig, eithr gwraig er mwyn y dyn.

10O herwydd hyn dylai’r wraig fod ag arwydd awdurdod ar ei phen o achos yr angylion.

11Er hyny, nid yw na gwraig heb ddyn, na dyn heb wraig yn yr Arglwydd,

12canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r dyn, felly hefyd y mae’r dyn trwy’r wraig; a phob peth o Dduw.

13Ynoch chwi eich hunain bernwch, Ai gweddus yw i wraig heb orchudd am dani weddïo Duw?

14Onid yw hyd yn oed naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd dyn yn wallt-laes, mai dianrhydedd yw iddo;

15ond os gwraig fydd wallt-laes, gogoniant yw iddi, canys ei gwallt a roddwyd yn lle gorchudd iddi.

16Ond os ymddengys neb yn gynhenus, nid oes genym ni y fath arfer, na chan eglwysi Duw.

17Ond pan hyn a orchymynaf, nid wyf yn eich canmol, canys nid er gwell, eithr er gwaeth y deuwch ynghyd;

18canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd, clywaf mai yn yr eglwys y mae sismau yn eich plith, a rhyw faint y credaf hyn,

19canys rhaid hefyd fod sectau yn eich plith, fel y bo i’r rhai cymmeradwy fyned yn amlwg yn eich plith.

20Wrth ddyfod o honoch, gan hyny, ynghyd, nid yw i fwytta swpper yr Arglwydd,

21canys pob un sy’n cymmeryd ei swpper ei hun o flaen arall, yn y bwytta; ac un sydd a newyn arno, ac arall yn feddw.

22Onid oes tai genych i’r bwytta ac yfed ynddynt? Ai eglwys Dduw a ddirmygwch, a chywilyddio y rhai nad oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? A ganmolaf fi chwi yn y peth hwn? Ni’ch canmolaf Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd,

23yr hyn a draddodais hefyd i chwi, y bu i’r Arglwydd Iesu yn y nos y traddodwyd Ef, gymmeryd bara;

24ac, wedi diolch o Hono, torrodd, a dywedodd, Hwn, yn wir, yw Fy nghorph I, yr hwn sydd eroch: Hyn gwnewch er cof am Danaf Fi.

25Yr un modd hefyd y cwppan, ar ol swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn, y cyfammod newydd yw yn Fy ngwaed I. Hyn gwnewch, cynnifer gwaith ag yr yfoch, er cof am Danaf Fi.

26Canys cynnifer gwaith ag y bwyttaoch y bara hwn, ac y cwppan a yfoch, marwolaeth yr Arglwydd a fynegwch hyd oni ddelo.

27Felly, pwy bynnag a fwyttao y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd, mewn modd annheilwng, dyledwr fydd i gorph a gwaed yr Arglwydd.

28A phrofed dyn ef ei hun; ac felly o’r bara hwn bwyttaed, ac o’r cwppan hwn yfed; canys yr hwn sy’n bwytta ac yn yfed,

29barnedigaeth iddo ei hun y mae efe yn ei bwytta ac yn ei hyfed, pan na wahan-farno’r corph.

30O achos hyn y mae yn eich plith lawer yn weiniaid ac yn llesg, a huno y mae llawer.

31Ond pe gwahan-farnem ein hunain, ni’n bernid.

32Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd, yr ydym yn cael ein ceryddu, rhag, ynghyda’r byd, ein condemnio.

33Gan hyny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd.

34Os bydd neb a newyn arno, yn ei dŷ bwyttaed, fel nad er barnedigaeth y deloch ynghyd. Ond y pethau eraill, pan ddelwyf, a drefnaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help