Psalmau 19 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIX.

1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.

2Y nefoedd (sy)’n datgan gogoniant Duw,

A gwaith Ei ddwylaw Ef,—ei glodfori (y mae)’r ffurfafen;

3Dydd i ddydd a adrodda ’r hanes,

Nos i nos a hyspysa wybodaeth (o hono),

4Heb lefaru ac heb eiriau,

Heb ddim clywed o’u lleisiau;

5Trwy ’r holl ddaear yr aeth eu sain allan,

A hyd eithafoedd y byd eu hymadrodd;

Ac i’r haul y gosododd Efe babell ynddynt,

6Ac yntau, fel priodfab, a â allan o’i ystafell,

Ymlawenhâ, fel gwron, i redeg ar hyd (ei) lwybr;

7O eithaf y nefoedd (y mae) ei fynediad ef allan,

A hyd eu heithafoedd (y mae) ei amdröad,

Ac nid dim fydd cuddiedig rhag ei wres.

8Cyfraith Iehofah (sydd) berffaith, yn dadebru ’r enaid,

Archiadau Iehofah (sydd) sicr, yn peri doethineb i’r gwirion,

9Deddfau Iehofah (sydd) uniawn, yn llawenhâu ’r galon,

Gorchymyn Iehofah (sydd) bur, yn goleuo ’r llygaid,

10Ofn Iehofah (sydd) lân, yn sefydlog yn dragywydd,

Barnau Iehofah (ŷnt) wirionedd, cyfiawn ŷnt i gyd,

11Y rhai (sy) ddymunol rhagor aur, rhagor aur coeth lawer,

A melus rhagor mel a diferiad diliau mel;

12Dy was hefyd a oleuir ganddynt hwy,

O’u cadw (y mae) gwobr lawer.

13Ei gamweddau pwy a noda?

Oddi wrth yr ymguddiedig rai dïeuoga fi,

14Hefyd oddi wrth y rhyfygus rai attal fi,

Nac arglwyddiaethont hwy arnaf!

Yna y byddaf ddifai,

Ac y’m dïeuogir oddi wrth bechod lawer:

15Cymmeradwy fyddo geiriau fy ngenau,

A myfyrdod fy nghalon, ger Dy fron Di,

O Iehofah, fy Ngraig a’m Gwaredwr!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help