1Fel hyn y dywed Iehofah,
Cedwch farn a gwnewch gyfiawnder,
Canys agos Fy iachawdwriaeth, ar fedr dyfod,
A’m cyfiawnder ar fedr ymddangos.
2Gwyn ei fyd y truan o ddyn ac a wnelo hyn,
A mab dyn a ymaflo ynddo,
Gan gadw’r sabboth rhag ei halogi,
A chan gadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
3Ac na ddyweded y dïeithr fab
Yr hwn (sy) ’n ymlynu wrth Iehofah, gan ddywedyd,
Gan ddidoli y didolodd Iehofah fi oddi wrth Ei bobl;
Ac na ddyweded y disbaddedig,
Wele fi yn bren sych.
4Canys fel hyn y dywed Iehofah wrth y rhai disbaddedig,
Y rhai a gadwant Fy sabbothau,
Ac a ddewisant yr hyn a ymhyfrydais ynddo,
Ac (sy) ’n ymaflyd yn Fy nghyfammod I,
5Rhoddaf iddynt yn Fy nhŷ,
Ac o fewn Fy magwyrydd, goffadwriaeth ac enw
Gwell na meibion a merched;
Enw tragywyddol a roddaf iddynt,
Yr hwn ni thorrir ymaith.
6A meibion y dïeithr y rhai a ymlynant wrth Iehofah,
I’w wasanaethu Ef, a charu enw Iehofah,
I fod iddo Ef yn weision;
Pob un a gadwo’r sabboth rhag ei halogi,
A’r rhai sy ’n ymaflyd yn Fy nghyfammod,
7Dygaf hwynt at fynydd Fy sancteiddrwydd,
A llawenychaf hwynt yn nhŷ Fy ngweddi,
Eu poeth offrymmau a’u haberthau (fyddant) yn foddhâol ar Fy allor;
Canys Fy nhŷ i, tŷ gweddi y gelwir ef i’r holl bobloedd.
8Medd yr Arglwydd Iehofah
Yr Hwn (sy) ’n casglu gwasgaredigion Israel,
Etto Mi a gasglaf atto ef, at ei gasgledigion ef.
9 Holl fwystfilod y maes,
Deuwch i ddifa, holl fwystfilod y coed.
10Ei wyliedyddion sydd ddall i gyd, ni wyddant (ddim),
Hwynt oll (ydynt) gŵn mudion, ni fedrant gyfarth,
Yn breuddwydio, yn gorwedd, ac yn caru hepian.
11Ië, y cŵn cadarn o yspryd,
Ni wyddant ddigonoldeb;
A’r rhai hyn yn fugeiliaid
Na fedrant ddeall;
Hwynt oll i’w ffordd eu hun y troisant,
Pob un i’w elw heb derfyn iddo;
12Deuwch (meddant) cyrchaf win,
A dyhysbyddwn ddiod gadarn;
A bydd hi, megis y dydd hwn, (felly) y foru,
Yn helaeth, yn ormeddawl odiaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.