1Iehofah sy’n teyrnasu,—cryna’r bobloedd,
Gorseddawg (yw) ar gerubiaid,—ysgoga ’r ddaear!
2Iehofah yn Tsïon (sydd) fawr,
A dyrchafedig Efe goruwch yr holl bobloedd!
3Moliannant Dy enw mawr ac ofnadwy,
—Sanctaidd (yw) Efe,—
4A nerth y Brenhin a’r sy’n hoffi barn!
Tydi a sefydlaist uniondeb,
Barn a chyfiawnder, yn Iacob Tydi a’u gwnaethost.
5Dyrchefwch Iehofah ein Duw,
A gwarogaethwch wrth leithig Ei draed;
—Sanctaidd (yw) Efe!
6Moshe ac Aharon (oeddynt) ymhlith Ei offeiriaid,
A Shamwël ymhlith y rhai a alwent ar Ei enw,
Galw ar Iehofah (yr oeddynt) ac Efe a’u gwrandawodd;
7Yn y golofn gwmmwl y llefarodd Efe wrthynt;
Cadwasant Ei gynreithiau a’r ddeddf a’r a roes Efe iddynt:
8O Iehofah, ein Duw, Tydi a’u gwrandewaist,
Duw maddeugar oeddit iddynt,
Ac yn dïal ar eu gweithredoedd.
9Dyrchefwch Iehofah ein Duw,
A gwarogaethwch ar Ei fynydd sanctaidd,
Canys sanctaidd (yw) Iehofah ein Duw!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.