S. Matthew 17 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac ar ol chwe diwrnod y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac y’u dug hwynt i fynu i fynydd uchel, o’r neilldu.

2A gwedd-newidiwyd Ef ger eu bron; a disgleiriodd Ei wyneb fel yr haul, a’i ddillad a aethant yn wynion fel y goleuni.

3Ac wele, gwelwyd ganddynt Mosheh ac Elias ynghydag Ef,

4yn ymddiddan ag Ef. A chan atteb, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, Ardderchog yw bod o honom yma. Os ewyllysi, gwnaf yma dair pabell; i Ti, un; ac i Mosheh, un; ac i Elias, un.

5Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a’u cysgododd hwynt: ac wele, llais o’r cwmmwl yn dywedyd,

Hwn yw Fy Mab anwyl yn yr Hwn y’m boddlonwyd: Arno Ef gwrandewch.

6Ac wedi clywed, y disgyblion a syrthiasant ar eu gwyneb, a dychrynwyd hwynt yn ddirfawr.

7Ac wedi dyfod attynt, yr Iesu a gyffyrddodd â hwynt, a dywedodd, Cyfodwch ac nac ofnwch.

8Ac wedi dyrchafu eu llygaid, ni welsant neb oddieithr yr Iesu ar Ei ben Ei hun.

9Ac wrth ddisgyn o honynt o’r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth wrth neb, hyd oni fo Mab y Dyn wedi adgyfodi o feirw.

10A gofynodd y disgyblion Iddo, gan ddywedyd, Paham, ynte, y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd fod yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?

11Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Elias yn wir sy’n dyfod, ac a edfryd bob peth;

12a dywedaf wrthych, Elias a ddaeth eisoes, ac nid adnabuant ef, eithr gwnaethant iddo gymmaint ag a ewyllysiasant. Felly y mae Mab y Dyn hefyd ar fedr dioddef ganddynt.

13Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedodd wrthynt.

14Ac wedi dyfod o honynt at y dyrfa, daeth Atto ddyn yn penlinio Iddo,

15ac yn dywedyd, Arglwydd, tosturia wrth fy mab, canys lloerig yw, ac yn dioddef yn dost; canys mynych y syrth yn y tân, ac yn fynych yn y dwfr;

16a dygais ef at Dy ddisgyblion, ac ni allent ei iachau ef.

17A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddiffydd a throfaus, hyd pa bryd y byddaf gyda chwi? Hyd ba bryd y dioddefaf chwi? Dygwch ef Attaf yma.

18A’i ddwrdio ef a wnaeth yr Iesu, ac aeth y cythraul allan o hono; ac iachawyd y bachgen o’r awr honno.

19Yna y disgyblion, wedi dyfod at yr Iesu o’r neilldu, a ddywedasant, Paham nad oeddym ni yn gallu ei fwrw ef allan?

20Ac Efe a ddywedodd wrthynt, O achos eich ychydig ffydd: canys yn wir y dywedaf wrthych, Pe bai genych ffydd fel gronyn o had mwstard, dywedech wrth y mynydd hwn, Dos drosodd oddi yma accw, a myned trosodd a wnae; ac ni fyddai dim yn ammhosibl i chwi.

22Ac a hwy yn ymdeithio yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion, a lladdant Ef;

23a’r trydydd dydd y cyfyd Efe; a thristhawyd hwynt yn ddirfawr.

24Ac wedi dyfod o honynt i Caphernahwm, daeth y rhai oedd yn derbyn y ddau-ddrachma, at Petr, a dywedasant, Onid yw eich Athraw yn talu’r ddau-ddrachma? Dywedodd efe, Ydyw.

25A phan ddaethai i’r tŷ, achubodd yr Iesu ei flaen ef, gan ddywedyd, Pa beth yw dy farn di, Shimon? Brenhinoedd y ddaear, gan bwy y derbyniant doll neu dreth? Gan eu meibion eu hun, neu gan estroniaid?

26A phan ddywedodd efe Gan estroniaid, ebr yr Iesu wrtho, Gan hyny ynte, rhydd yw’r meibion.

27Ond fel na pharom dramgwydd iddynt, dos i’r môr a bwrw fach; a’r pysgodyn a ddaw i fynu yn gyntaf, coda ef; ac wedi agoryd ei safn, cei stater: hwnw cymmer, a dyro iddynt Drosof Fi a thi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help