S. Ioan 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac yr oedd dyn o’r Pharisheaid, a Nicodemus yn enw iddo, pennaeth yr Iwddewon.

2Hwn a ddaeth Atto Ef liw nos, ac a ddywedodd Wrtho, Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, canys yr holl arwyddion hyn y rhai yr wyt Ti yn eu gwneuthur, nid oes neb a all eu gwneuthur oddieithr i Dduw fod gydag ef.

3Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o newydd ni all weled teyrnas Dduw.

4Dywedodd Nicodemus Wrtho, Pa fodd y gall dyn ei eni, ac efe yn hen? A all efe fyned i mewn i groth ei fam eilwaith, a’i eni?

5Attebodd yr Iesu, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o ddwfr ac o’r Yspryd ni all fyned i mewn i deyrnas Dduw.

6Yr hyn a aned o’r cnawd, cnawd yw; a’r hyn a aned o’r Yspryd, yspryd yw.

7Na ryfedda ddywedyd o Honof wrthyt, Y mae rhaid eich geni o newydd.

8Y gwynt, lle yr ewyllysia y chwyth, a’i swn ef a glywir; eithr ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y cilia; felly y mae pob un a aned o’r Yspryd.

9Attebodd Nicodemus, a dywedodd Wrtho, Pa fodd y gall y pethau hyn fod?

10Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Tydi wyt ddysgawdwr Israel, a’r pethau hyn ni wyddost!

11Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Yr hyn a wyddom a lefarwn; a’r hyn a welsom a dystiolaethwn; a’n tystiolaeth ni dderbyniwch.

12Os pethau daearol a ddywedais wrthych, ac na chredwch, pa fodd os dywedaf wrthych bethau nefol, y credwch?

13Ac nid oes neb wedi esgyn i’r nef, oddieithr yr Hwn a ddisgynodd o’r nef, sef Mab y Dyn, yr Hwn sydd yn y nef.

14Ac fel y bu i Mosheh ddyrchafu’r sarph yn yr anialwch, felly, Ei ddyrchafu sydd rhaid i Fab y Dyn,

15fel y bo rhaid i bob un y sy’n credu Ynddo, gael bywyd tragywyddol.

16Canys felly y carodd Duw y byd, fel mai Ei Fab unig-anedig a roddodd Efe, fel y bo i bob un y sy’n credu Ynddo mo’i golli, eithr cael o hono fywyd tragywyddol.

17Canys ni ddanfonodd Duw Ei Fab i’r byd fel y barnai y byd, eithr fel yr achubid y byd Trwyddo.

18Yr hwn sy’n credu Ynddo ni fernir; yr hwn nad yw yn credu, eisoes y’i barnwyd, o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw.

19A hon yw’r farn, Fod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charodd dynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni, gan mai drwg oedd eu gweithredoedd.

20Canys pob un yn gwneuthur pethau drwg, cas ganddo y goleuni, ac nid yw’n dyfod i’r goleuni fel nad argyhoedder ei weithredoedd;

21ond yr hwn sy’n gwneuthur y gwirionedd, dyfod i’r goleuni y mae, fel yr amlyger ei weithredoedd ef mai yn Nuw y maent wedi eu gwneuthur.

22Wedi’r pethau hyn daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Iwdea; ac yno yr arhosodd gyda hwynt, ac y bedyddiai.

23Ac yr oedd Ioan yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Shalim, canys dwfr lawer oedd yno; a daethant Atto, a bedyddid hwynt,

24canys nid oedd Ioan etto wedi ei fwrw yngharchar.

25Bu, gan hyny, ymresymmiad rhwng disgyblion Ioan ac Iwddew ynghylch puredigaeth;

26a daethant at Ioan, a dywedasant wrtho, Rabbi, yr Hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, ac i’r Hwn y tystiolaethaist, wele, y mae Efe yn bedyddio, a phawb yn dyfod Atto.

27Attebodd Ioan, a dywedodd, Ni all dyn dderbyn dim oddieithr y bo wedi ei roddi iddo o’r nef.

28Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi y dywedais, “Nid wyf fi y Crist,” eithr “Wedi fy nanfon yr wyf o’i flaen Ef.”

29Yr hwn sydd a chanddo y briod-ferch, y priod-fab yw; a chyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed, â llawenydd y llawenycha oblegid llef y priod-fab. Y llawenydd hwn, gan hyny, mau fi, a gyflawnwyd.

30Iddo Ef y mae rhaid cynnyddu, ac i mi leihau.

31Yr hwn sy’n dyfod oddi uchod, goruwch pawb y mae; yr hwn y sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae, ac o’r ddaear y mae ei ymddiddan: yr Hwn y sy’n dyfod o’r nef, goruwch pawb y mae.

32Yr hyn a welodd ac a glywodd Efe, hyny a dystiolaetha Efe; ac Ei dystiolaeth nid oes neb yn ei derbyn.

33Yr hwn sy’n derbyn Ei dystiolaeth Ef a seliodd fod Duw yn eirwir:

34canys yr Hwn a ddanfonodd Duw, ymadroddion Duw a lefara Efe; canys nid wrth fesur y rhydd Efe yr Yspryd.

35Y Tad a gâr y Mab; a phob peth a roddodd Efe yn Ei law.

36Yr hwn sy’n credu yn y Mab sydd a chanddo fywyd tragywyddol; ond yr hwn nad yw yn credu yn y Mab, ni wel fywyd, eithr digofaint Duw sydd yn aros arno.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help