Rhufeiniaid 13 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Bydded pob enaid wedi ei ddarostwng i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth Dduw; a’r rhai y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.

2Felly yr hwn sy’n ymosod yn erbyn yr awdurdod, ordinhad Duw y mae efe yn ei gwrthsefyll; a’r rhai a wrthsafant a dderbyniant iddynt eu hunain farn.

3Canys y llywodraethwyr, nid ydynt ofn i’r weithred dda, ond i’r ddrwg. A ewyllysi di nad ofnech yr awdurdod? Gwna yr hyn sydd dda, a chai fawl ganddo, canys gweinidog Duw yw i ti er daioni;

4ond os yr hyn sydd ddrwg a wnei, ofna, canys nid yn ofer y cleddyf a wisg efe, canys gweinidog Duw yw, dialydd llid i’r hwn sy’n gwneuthur drwg.

5Gan hyny, y mae rhaid ymddarostwng, nid yn unig o herwydd y llid, eithr hefyd o herwydd cydwybod:

6canys o achos hyn y telwch deyrnged hefyd, canys gwasanaethwyr Duw ydynt, yn ddyfal-ofalu am y peth hwn.

7Telwch i bawb eu dyledion; i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, deyrnged; i’r hwn y mae toll, doll; i’r hwn y mae ofn, ofn; i’r hwn y mae anrhydedd, anrhydedd.

8I neb na fyddwch mewn dyled o ddim oddieithr o garu eich gilydd, canys yr hwn sy’n caru arall, y Gyfraith a gyflawnodd efe;

9canys hyn, “Ni odinebi, Ni leddi, Ni ladrattai, Ni thrachwanti,” ac os oes rhyw orchymyn arall, yn yr ymadrodd hwn y crynhoir, “Car dy gymmydog fel ti dy hun.”

10Cariad ni wna i’w gymmydog ddrwg; cyflawnder y Gyfraith, gan hyny, yw cariad.

11A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i chwi i ddeffroi o gwsg, canys yn awr nes yw ein hiachawdwriaeth ni na phan gredasom.

12Y nos a gerddodd ym mhell, a’r dydd a nesaodd; diosgwn, gan hyny, weithredoedd y tywyllwch, a rhoddwn am danom arfau y goleuni.

13Fel yn y dydd, rhodiwn yn weddus, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen;

14eithr rhoddwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist; a rhag-ddarbod dros y cnawd, er ei chwantau ef, na wnewch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help